Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

PopUp Wales a Cwmpas yn lansio prosiectau newydd i gefnogi busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae PopUp Wales a Cwmpas wedi lansio dau brosiect newydd i gefnogi busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd Rhaglen y Fenter Gymdeithasol yn cael ei harwain gan Cwmpas a bydd yn cynnig gweithdai, cyngor busnes, cyfleoedd i rwydweithio a dosbarthiadau meistr er mwyn helpu mentrau cymdeithasol a mudiadau cymunedol i fod yn fwy cynaliadwy.

Hefyd, byddant yn helpu i hyrwyddo, addasu ac amrywiaethu cynhyrchion a gwasanaethau presennol fel y gellir ymateb i alw’r farchnad.

Yn y cyfamser, mae menter Urban Foundry PopUp Wales yn cynorthwyo egin fusnesau a busnesau bach trwy baru mannau fforddiadwy trwy’r fwrdeistref sirol â syniadau busnes gwych.

Yn ogystal â helpu pobl i ddod o hyd i fannau yn y tymor byr i brofi’r farchnad, ehangu eu busnes a datblygu syniadau, mae PopUp Wales hefyd yn cynnig cyngor busnes personol, gweithdai a digwyddiadau i gynorthwyo busnesau ar eu siwrnai.

Gwych yw gweld bod cymorth amrywiol ar gael i fusnesau trwy’r fwrdeistref sirol, ac eisoes mae llawer o bethau cadarnhaol wedi deillio o fentrau fel PopUp Wales mewn blynyddoedd blaenorol.

Mae’r cynllun yn ffordd wych o roi cynnig ar syniad – er enghraifft, cafodd rhai o fasnachwyr y farchnad gymorth gan PopUp Wales ar ddechrau eu siwrnai.

Hefyd, buaswn yn annog busnesau i weld pa gymorth sydd gan Cwmpas i’w gynnig. Mae Cwmpas yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd tra’n cynnig llawer o gyngor yn ymwneud â’r tueddiadau diweddaraf er mwyn sicrhau y bydd unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau’n cyd-fynd â galw’r farchnad.

Medd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol:

I gael rhagor o wybodaeth, cymerwch gipolwg ar y gwefannau isod:

Bydd y ddau brosiect ar waith ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr tan 31 Mawrth 2025 a chânt eu hariannu’n llwyr gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Chwilio A i Y