Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu ei statws ystyriol o faethu yn ystod Pythefnos Maethu 2023

Pob diwrnod, mae pump o blant newydd angen gofal maeth yng Nghymru. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o ofal maeth a dangos sut all drawsnewid bywydau, mae The Fostering Network (elusen faethu blaenllaw’r DU) yn arwain ymgyrch flynyddol, sef Pythefnos Gofal Maeth, a gynhelir o 15 – 28 Mai. 

Bwriad yr ymgyrch yw dathlu gofalwyr maeth, plant gofalwyr maeth a phobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, er mwyn dangos iddynt pa mor allweddol ydynt a'n bod yn eu gwerthfawrogi’n fawr iawn.

Mae Pythefnos Gofal Maeth yn amser gwych i ddiolch i ofalwyr presennol ac mae gan Dîm Gofal Maeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr raglen o weithgareddau wedi’i chynllunio i ddathlu eu gwaith. 

Ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch, sef dydd Llun 15 Mai, bydd tîm o arbenigwyr a gofalwyr maeth profiadol yn teithio o amgylch Porthcawl, y Pîl, a Maesteg, er mwyn codi ymwybyddiaeth o ofal maeth gyda’r gobaith o recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn ein cymunedau lleol. 

Ar ddiwedd yr wythnos gyntaf, ddydd Gwener 19 Mai, cynhelir Gwobrau Cydnabyddiaeth Gofal Maeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn yr Atlantic Hotel ym Mhorthcawl. Byddwn yn dathlu llwyddiannau rhai o ofalwyr maeth pennaf a mwyaf profiadol y fwrdeistref sirol yn ogystal â chydnabod gwaith caled ein holl gymuned gofal maeth.

 Yn ystod yr ymgyrch, ar 19 Mai a 25 Mai, byddwn hefyd yn goleuo Swyddfeydd Dinesig y cyngor gyda goleuadau porffor er mwyn mynegi ein diolch a’n cefnogaeth i ofalwyr maeth lleol.

Yn ystod yr ail wythnos, mae taith gerdded wedi ei threfnu gyda Toby yr Arth (masgot y tîm lleol). Bydd yn dwyn ynghyd gofalwyr maeth lleol, plant maeth, teuluoedd a ffrindiau i rannu profiadau a bydd yn gyfle iddynt gefnogi a chynghori ei gilydd.

Yn ychwanegol i'r gweithgareddau hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar wedi dod yn gyflogwr sy’n ystyriol o faethu, er mwyn annog mwy o bobl i fod yn ofalwyr maeth.

Cafodd y fenter ei chreu gan The Fostering Network, ac mae wedi'i datblygu i annog cyflogwyr i gefnogi’r maes gofal maeth, yn ogystal â chefnogi gofalwyr maeth eu hunain.

Drwy fabwysiadu polisi sydd ag agwedd ystyriol o faethu, caiff gweithwyr sy’n darparu gofal maeth y cyfle i weithio’n hyblyg, lle bynnag sy'n bosibl, a darperir hyd at bum diwrnod o absenoldeb ‘gofalwyr maeth’ iddynt. Gellir defnyddio'r absenoldeb hwn i helpu'r plentyn gynefino â'i gartref newydd, er enghraifft, neu i fynychu hyfforddiant perthnasol a dan unrhyw amgylchiadau brys a all godi yn sgil y rôl gofalwr maeth. 

Cysylltu â chyflogwyr lleol a'u hannog i ddod yn gyflogwyr sy'n ystyriol o ofal maeth yw un o'r nifer o bethau yr ydym yn eu gwneud i helpu ein gofalwyr maeth. Yn ddiweddar, gwnaethom lansio siarter y gofalwyr maeth i ddangos sut ydym yn parchu rôl gofalwyr maeth, eu grymuso i wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd a gwerthfawrogi eu gwybodaeth allweddol am y plentyn fel rhan o'n tîm.

Cynghorydd Jane Gebbie, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar.

Gall meddu ar bresenoldeb amlwg yn y gymuned leol a chael cefnogaeth gan breswylwyr yn ystod y pythefnos fod yn hynod effeithiol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch cymryd rhan yn y pythefnos hwn a chefnogi'ch tîm gofal maeth lleol, neu os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch maethu yn eich awdurdod lleol, yna ewch i wefan Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y