Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu ei chymuned Lluoedd Arfog gyda gorymdaith yng Nghanol y Dref

Gwahoddir preswylwyr ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddigwyddiad o ddathlu a dangos cefnogaeth tuag at ein cymuned Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 24 Mehefin, sef Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Cynhelir y digwyddiad ar Stryd Wyndham a Lle Dunraven yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Yno, bydd gorymdaith i ddathlu’r dynion a merched sy’n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog, p’un a ydynt yn gadetiaid, yn gyn-filwyr, yn deuluoedd milwrol, neu’n filwyr gweithredol.

Mi fydd Band Heddlu De Cymru yn arwain yr orymdaith, gan gychwyn yn Nhŷ Carnegie am 11am, a bydd y digwyddiad yn dod i ben am 1.45pm gyda Gwasanaeth Awyr Agored.

Yn y digwyddiad, sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, bydd cerbydau milwrol, cerddoriaeth, gweithgareddau, a stondinau sy’n cynrychioli sefydliadau ac elusennau amrywiol y Lluoedd Arfog hefyd yn bresennol.

Mae dathliadau pellach ar gyfer dathlu Wythnos y Lluoedd Arfog yn cynnwys y digwyddiad seremonïol o ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ar ddydd Gwener 23 Mehefin yn Swyddfeydd Dinesig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd Cyfamod y Lluoedd Arfog ei fabwysiadu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2013, ac mae’n ymrwymo i sicrhau bod aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn gallu defnyddio gwasanaethau masnachol a llywodraethol yr un fath ag unrhyw ddinesydd arall, gan ganolbwyntio ar gynnig cymorth gyda gwasanaethau addysg, iechyd a lles, a thai.

Er mwyn dathlu deg mlynedd o’r Cyfamod, bydd cynrychiolwyr o’r cyngor gan gynnwys y Cynghorydd Huw David, sef Arweinydd y Cyngor, William Kendall, Maer Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr, Mark Shephard, y Prif Weithredwr, a’r Cynghorydd Martyn Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, yn ymuno ag Arglwydd Raglaw EF Morgannwg Ganol, sef Peter Vaughan QPM CStJ, Uchel Siryf Morgannwg Ganol, yr Athro Jean White CBE MStJ, a chynrychiolwyr o’r Fyddin, y Llynges Frenhinol, yr Awyrlu Brenhinol, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Bwrdd Iechyd Cwm Taf, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, SSAFA a BL, er mwyn ail-lofnodi’r cyfamod a gwneud addewid o deyrngarwch.

Ar ôl y seremoni, codir fflag y Lluoedd Arfog.

Gall sefydliadau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn nigwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog gysylltu â Dawn Elliott, Rheolwr Digwyddiadau ac Ymgysylltu â’r Gymuned, drwy Dawn.Elliott@bridgend.gov.uk

Gall unrhyw sefydliad sydd eisiau llofnodi neu ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog gysylltu â swyddog ymgysylltu rhanbarthol y lluoedd arfog, Bethan Dennedy, drwy b.dennedy@npt.gov.uk.

Mae digwyddiadau fel hyn wir yn dod â’r gymuned at ei gilydd, ac mae’n ffordd arbennig o ddathlu a chefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a diolch iddynt am eu hymrwymiad a’u dewrder, ac am eu haberth wrth wasanaethu ac amddiffyn ein gwlad.

Y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol.

Rydym yn falch o allu atgyfnerthu ein hymrwymiad i gefnogi aelodau presennol y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a’u teuluoedd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd oll wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’n cymunedau. Dros y deg mlynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn weithredol o ran datblygu ein perthynas gyda chymuned y Lluoedd Arfog a sefydliadau eraill, gan gynnig cefnogaeth gydag addysg, iechyd a lles, tai, cyngor ariannol, gyrfaoedd a gostyngiadau i brisiau gwasanaethau, a byddwn yn parhau i geisio ei gwneud hi’n haws gwneud defnydd o’n cymorth a chefnogaeth yn y gymuned leol.

Y Cynghorydd Martyn Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog.

Chwilio A i Y