Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Partneriaeth Cynghorau Balch wedi'i henwebu ar gyfer gwobr PinkNews

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch iawn fod y bartneriaeth Cynghorau Balch, sy'n ceisio gwella'r cymorth a roddir i staff LHDTC+ mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr PinkNews.

Ffurfiwyd Cynghorau Balch yn 2015 er mwyn sicrhau bod llywodraeth leol ledled Cymru yn arweinydd amlwg ym maes hawliau LHDTC+, ac yn hyrwyddo cynhwysiant LHDTC+ yn weithredol o fewn ein cymunedau.

Mae'r bartneriaeth wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus sy'n dathlu'r adrannau arbennig hynny o fewn cyrff llywodraethol, neu gyrff cyhoeddus eraill yn y DU, sy'n newid er gwell.

Mae'r seremoni flynyddol yn cydnabod cyfraniadau arbennig y bobl, y sefydliadau a'r cwmnïau sy'n ymgyrchu dros bobl LHDTC+ a chydraddoldeb byd-eang.

Yn ogystal â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerdydd, Casnewydd, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent ac Abertawe'n weithgar o fewn partneriaeth Cynghorau Balch.

A minnau'n aelod balch o'r gymuned LHDTC+, rwyf ar ben fy nigon fod partneriaeth Cynghorau Balch wedi cael ei chydnabod am ei gwaith parhaus i wella cynhwysiant LHDTC+.

Mae'r misoedd diwethaf wedi dangos bod yr her i gael cydraddoldeb ar gyfer ein cymuned yn parhau - yn enwedig ar gyfer pobl o fewn y cymunedau traws ac anneuaidd. Mae cael y cynghorau ar draws de Cymru i gydweithio'n dangos yr ymrwymiad sydd gennym tuag at bob rhan o'r gymuned LHDTC+, yn ogystal â hyrwyddo parch ac amrywiaeth yn ein cymunedau. Mae'n hollbwysig fod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn darparu ar gyfer pawb, waeth beth yw eu hil, rhywioldeb, hunaniaeth rywedd, oed, anabledd neu grefydd.

Dymunaf y gorau i Gynghorau Balch yng Ngwobrau PinkNews, a hoffwn ddiolch i staff yn yr awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan am weithio mor galed i sicrhau ei llwyddiant.

Dywedodd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Llesiant

Cynhelir Gwobrau PinkNews ar 19 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth ar gael i chi yma: www.pinknews.co.uk/awards

Chwilio A i Y