Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Oedi’r gwaith yng Ngwaith Dŵr Tondu er mwyn datrys y broblem draffig

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cytuno i oedi gwaith yn Nhondu am y tro gyda’r nod o ddod o hyd i ddatrysiad i’r problemau traffig o ganlyniad i’r gwaith.

Mae’r gwaith yn cael ei gynnal wrth gyffordd goleuadau traffig Heol Maesteg (A4063) yn Nhondu, a bydd yn dod i ben dros dro ddydd Gwener 10 Mawrth 2023.

Mae’r contractwyr yn gweithio i adfer y briffordd fel bod modd dod â’r goleuadau traffig gwreiddiol yn ôl erbyn y penwythnos.

Er gwaetha’r ffaith mai Dŵr Cymru Welsh Water sy’n gwneud y gwaith, mae’r cyngor wedi camu i mewn i fonitro’r sefyllfa ar yr adegau prysuraf ac i gwrdd â’r contractwr rheoli traffig a gyflogir gan Dŵr Cymru Welsh Water i geisio dod o hyd i ddatrysiad.

O ganlyniad i natur y gwaith, nid oedd modd i'r contractwyr osgoi gweithio ar yr adegau prysuraf a rhoddwyd cynnig ar amrywiaeth o fesurau i wella’r sefyllfa.

Bydd cyfarfodydd pellach yn cael eu cynnal nawr rhwng y cyngor a Dŵr Cymru Welsh Water i gynllunio ar gyfer cwblhau’r gwaith yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Hoffai’r cyngor ddiolch i drigolion a gyrwyr am eu dealltwriaeth a’u hamynedd yn ystod y cyfnod.

Chwilio A i Y