Nodi wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Llun 09 Mai 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 9 - 15 Mai 2022. Thema’r wythnos yw ‘unigrwydd’, a bwriad y digwyddiad yw ceisio dangos sut mae’n effeithio ar lesiant meddyliol a chorfforol.
Mae mis Mai hefyd yn nodi #MisCerddedCenedlaethol, ac rydym yn annog trigolion i gofrestru ar gyfer her ‘80 Milltir ym mis Mai’ a rhannu eu lluniau drwy ddefnyddio’r hashnod #80MilltirMai.
Mae nifer o barciau, coetiroedd, mannau gwyrdd, gwarchodfeydd natur a thraethau hardd o amgylch Bwrdeistref Sirol #PenyBontarOgwr ichi ymweld â nhw a’u mwynhau, gan gynnwys nifer o lwybrau arfordirol a llwybr Snoopy Dog's Trust yn #Porthcawl ar hyn o bryd.
Mae sawl gwasanaeth sy’n cefnogi pobl sy’n dioddef o achos unigrwydd a materion iechyd meddwl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: Mae'r rhain yn cynnwys:
- Cynorthwyo gydag Adfer yn y Gymuned (ARC) sy’n rhoi cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth strwythuredig i unigolion sydd â materion iechyd meddwl.
- Pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc – adnoddau ar-lein i gefnogi iechyd meddwl a llesiant.
- Cyrsiau iechyd a llesiant – sut i hyrwyddo llesiant meddwl a chydnabod y cymorth sydd ar gael i unigolion sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl.
- Gwasanaeth cwnsela ar gyfer pobl ifanc – gall plant a phobl ifanc rhwng 10 a 15 mlwydd oed gael mynediad at wasanaeth cwnsela er mwyn helpu i ddatblygu gwytnwch emosiynol.
- The Silver Line - llinell gymorth am ddim, gyfrinachol, 24/7, sy’n cynnig gwybodaeth, cyfeillgarwch a chymorth i bobl hŷn.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl.