Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Newyddion da i ysgolion yn sgil Rhaglen Gyfalaf y Cyngor

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf wedi'i diweddaru, gan ganiatáu i ysgolion elwa o'r buddsoddiad ychwanegol.

Mae Ysgol Gyfun Bryntirion wedi derbyn cyllid ar gyfer bloc addysgu newydd yn cynnwys chwe dosbarth, yn cynnwys toiledau a mannau storio. 

Mae datblygiadau tai arfaethedig o fewn dalgylch yr ysgol wedi cychwyn, sy'n golygu y bydd cynnydd yn nifer y disgyblion y bydd angen i’r ysgol ddarparu ar eu cyfer, ac mae honno eisoes yn llawn.  Bydd y dosbarthiadau newydd yn cynnig atebion hirdymor i'r mater dan sylw.

Gyda chyllideb o £1.8m, y gobaith yw y bydd y dosbarthiadau newydd yn Ysgol Gyfun Bryntirion yn barod erbyn diwedd Mai 2024.

Mae nawdd pellach wedi'i neilltuo i roi'r rhaglen Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) ar waith, trwy ddarparu adnoddau cegin.  O ddechrau Ebrill eleni, bydd holl blant Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn cael cynnig prydau ysgol am ddim, gyda phlant Dosbarth Derbyn yn elwa o brydau ysgol am ddim ers Medi 2022. 

Er mwyn cefnogi'r fenter hon, dyfarnwyd cyllid ychwanegol o £1.035m i'r cyngor gan Lywodraeth Cymru.  Bydd estyniad i gegin Ysgol Gynradd Bracla yn cael ei ariannu gyda'r cyllid hwn, a bydd podiau cegin yn cael eu prynu ar gyfer Ysgol Gynradd Cwmfelin, Ysgol Gynradd Newton ac Ysgol Fabanod Bryntirion.

Am newyddion penigamp i'r ysgolion hyn!" Rydym yn hynod ddiolchgar o dderbyn yr arian ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod ein disgyblion yn cael y gefnogaeth orau bosibl o safbwynt eu lles a'u haddysg.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y