Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

'Nawr yw'r Amser' i fod yn Ofalwr Maeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae ymgyrch newydd ‘Nawr yw'r Amser’, wedi ei lansio gan Faethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu o Awdurdodau Lleol Cymru.

Mewn cyfres o sgyrsiau gyda Mai Davies, newyddiadurwr a chyflwynydd, mae'r ymgyrch yn cynnal trafodaeth agored a gonest rhwng gofalwyr maeth o bob cefndir ar draws Cymru, sy'n egluro'r rhesymau a'u harweiniodd i ddod yn ofalwyr maeth.

Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn galluogi gofalwyr maeth posibl i gydnabod y profiadau bywyd gwerthfawr maent yn eu cael a fydd yn eu cynorthwyo i ddod yn ofalwyr maeth cynhwysfawr a chefnogol yn eu cymunedau.

Mewn un bennod mae Cath, gofalwr maeth o Sir Ddinbych yn trafod ei thaith drwy'r broses faethu. Dywedodd: "Rwy'n credu bod pobl o’r farn nad ydyn nhw’n bersonol yn addas ar gyfer bod yn ofalwr maeth ac mai pobl dra gwahanol sy’n gwneud y math yma o waith.

"Mae llawer o bobl yn dweud pan fyddwch yn dod ar eu traws, 'Byddwn wrth fy modd bod yn ofalwr maeth ond rwyf braidd yn ansicr' ac rwyf bob amser yn dweud, ffoniwch a holwch, chewch chi neb yn curo ar eich drws i ofyn a ydych eisiau bod yn ofalwr maeth.

"Erbyn pan mae rhai o'r plant hyn yn bump oed maent wedi cael profiadau na fydd eraill yn eu cael ar hyd eu hoes, a'r empathi, y ddealltwriaeth a'r agwedd anfeirniadol honno sydd ei hangen mewn gwirionedd."

Dechreuodd Jenny, sy'n ofalwr maeth o Sir Fflint, faethu pan oedd yn 66 oed,  wedi iddi golli ei gŵr. Ar ôl meddwl yn wreiddiol ei bod yn rhy hen, bellach mae'n credu bod ei hoed o fantais wrth faethu.

Dywedodd: "Mae'r plant sydd ar y stryd lle rwy'n byw yn chwarae gyda'r plant sy'n dod ataf i, a byddant yn gofyn, 'Dy Nain yw honna?' Ac wrth gwrs maent yn dweud ia gan fod hynny'n haws, ac wedyn does dim angen iddynt egluro mai gofalwr maeth sy'n edrych ar eu hôl ydw i gan fod hynny'n gallu bod yn lletchwith.

"Maent yn fy ystyried fel rhyw ffigwr tebyg i nain, ac rwyf yn eu difetha gan mai dyna yw gwaith neiniau."

Dywedodd Roger, gofalwr maeth o Geredigion, mai ei brofiadau niweidiol yn ystod ei blentyndod a barodd iddo ef fod eisiau cynorthwyo a gofalu am blant maeth. "Ni chefais blentyndod hapus," meddai, "ac rwy'n teimlo yr hoffwn gynorthwyo plant sydd ddim yn cael plentyndod hapus, mae gen i empathi iddyn nhw."

Fel gofalwr maeth sengl, mae Roger yn cydnabod ei bod yn gallu bod yn anodd ar adegau, ond bod ganddo ei fanteision hefyd, "Mae yna dal ragfarn ynghylch dynion yn maethu ar eu pen eu hunain. Mewn rhai ffyrdd, mae'n haws maethu ar eich pen eich hun gan nad oes angen pwyllgor dau berson cyn gwneud popeth, gallwch wneud y penderfyniadau ac mae'r cyfrifoldeb, yn amlwg, arnoch chi ond mae'n symlach.

"Rydych yn rhan o dîm, ac fel gofalwr sengl, rwy'n credu y byddai'n amhosibl ei wneud heb y tîm"

Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru:

"Mae gennym ofalwyr maeth o bob mathau o gefndiroedd gwahanol yn goflau am ein plant o fewn Maethu Cymru.

"P'un ai ydych wedi bod yn meddwl am faethu yn ddiweddar neu dros y deng mlynedd ddiwethaf gofynnwn i chi gysylltu â thîm Maethu Cymru. Byddwn yn eich cynorthwyo i ystyried ai nawr yw'r amser i chi a'ch cefnogi bob cam o'r ffordd ar hyd eich taith faethu."

Bydd y gyfres chwe phennod yn cael ei rhyddhau yn wythnosol ar wefan Maethu Cymru a'i sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae'r fideos ar gael hefyd ar sianel YouTube Maethu Cymru.

Am fwy o wybodaeth am faethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ewch i https://bridgend.fosterwales.gov.wales/

Dolenni Youtube ar gyfer y fideos llawn:

https://youtu.be/jx07Ot3vxJ4

https://youtu.be/mdTvgK6uLpU

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried dod yn ofalwr maeth i gysylltu â'r tîm maethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. "Mae gallu gosod plant gyda gofalwyr maeth sy'n byw o fewn y fwrdeistref sirol yn sicrhau dilyniant yn nhermau addysg, gofal iechyd, cyfoedion a chyswllt, lle fo'n bosib, gyda theulu geni. "Beth bynnag fo'ch cefndir, byddai llawer o blant yn elwa o'ch profiadau bywyd. "Mae gennym gymuned wych o ofalwyr maeth ar draws y fwrdeistref sirol a fydd, ynghyd â thîm maethu'r awdurdod, yn eich cynorthwyo ar hyd eich taith."

Y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar.

Chwilio A i Y