Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mynnwch swydd newydd i chi’ch hun yn y ffair swyddi a gynhelir cyn hir

Bydd digon o gyfleoedd gwaith ar gael yn y ffair swyddi sydd a gynhelir ddydd Mawrth 6 Chwefror 2024, 10am tan 1pm yn yr Hi-Tide, Ffordd Mackworth, Porthcawl CF36 5BT.

Yn agored i bawb sy’n chwilio am waith, myfyrwyr a phobl ifanc, waeth beth fo'u hoedran neu brofiad, bydd y sawl sy’n mynychu yn cael cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o ystod eang o gyflogwyr yn y diwydiant cyhoeddus, manwerthu a lletygarwch, gan gynnwys Trecco Bay – Parkdean Resorts ym Mhorthcawl, Coney Beach, Booth Group a The Hi-Tide, ynghyd â'r RAF, Lidl a First Cymru. Bydd y digwyddiad yn hyrwyddo amrywiaeth o yrfaoedd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a lletygarwch.

Bydd cymorth ac arweiniad ar gael drwy gydol y bore gan ein staff cyfeillgar yn nhîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, a fydd, mewn partneriaeth â'r Ganolfan Byd Gwaith, wrth law i drafod eich llwybrau at gyflogaeth ac i ddarparu cymorth i lenwi unrhyw fylchau hyfforddiant.

Croesewir ymholiadau gan bobl sy’n gallu gyrru, a’r rhai sydd ddim. Nid oes angen defnyddio cerbyd ar gyfer pob swydd wag, fodd bynnag, mae cymorth ar gael i'r rhai sydd â diddordeb mewn ymgymryd â gwersi gyrru ar gyfer y rolau ble mae angen gallu defnyddio cerbyd.

Yn yr hinsawdd economaidd ansicr sydd ohoni, mae'n gam cadarnhaol i allu cefnogi pobl i ddod o hyd i waith ac amlygu'r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Mae'r digwyddiadau galw heibio hyn yn gyfle delfrydol i siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr a chael mewnwelediad i rôl neu sefydliad penodol.

Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda'n partneriaid yn y Ganolfan Byd Gwaith i helpu pobl i symud tuag at waith, hyfforddiant, symud ymlaen mewn gyrfa a ddewiswyd neu i ystyried newid swydd."

Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Lles Cymunedol

I gael rhagor o wybodaeth am y ffair swyddi, cysylltwch â Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 815317 neu fel arall, e-bostiwch: employability@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y