Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mwynhau tywydd poeth yn ddiogel

Mae trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i beidio ag oeri drwy fynd i nofio mewn afon, llyn neu bwll yn ystod y tywydd poeth.

Gyda rhybudd tywydd lliw oren mewn grym ar gyfer y rhan fwyaf o'r DU, a thymereddau lleol yn cyrraedd mor uchel â 32 gradd dros y penwythnos, mae nofio mewn lleoedd fel cronfeydd dŵr, pyllau neu wagleoedd dan ddŵr yn cynyddu'r peryglon sy'n cael eu hachosi gan gramp, sioc dŵr oer a rhwystrau tanddwr cuddiedig.

Mae'r arfer o neidio o uchder i bwll o ddŵr yn hynod beryglus hefyd, ac wedi achosi anafiadau yn y gorffennol yn amrywio o friwiau a rhwygiadau i dorri esgyrn y coesau a’r fferau. Yn aml hefyd mae hyn yn cynyddu’r perygl o ddamweiniau â chychod a nofwyr eraill.

Os ydych chi allan yn y tywydd poeth, cymerwch gamau i osgoi dioddef o ddadhydradu, gorboethi, blinder gwres neu drawiad gwres, yn enwedig ymysg plant a phobl fregus.

Mae Arbenigwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhyddhau'r cyngor canlynol er mwyn helpu i ddiogelu pobl:

  • Arhoswch yn y cysgod, yn enwedig rhwng 11am a 3pm.
  • Gwisgwch het a dillad llac, gyda llewys hir os yn bosib.
  • Rhowch eli haul gyda ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) uchel.
  • Cadwch aer cynnes allan trwy gau’r ffenestri a’r llenni yn ystod y dydd.
  • Yfwch ddigonedd o ddŵr, ac osgoi alcohol.
  • Gall cawod oer helpu i’ch atal rhag mynd yn rhy boeth.
  • Cadwch lygad ar eich teulu, cyfeillion a chymdogion, yn enwedig os ydynt yn fregus, yn oedrannus neu’n byw ar eu pen eu hunain.
  • Ystyriwch newid eich arferion am y tro gan osgoi gwneud gweithgareddau llafurus pan mae’r haul ar ei boethaf.

Yn ystod y tywydd poeth eithafol, mae hi hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol o symptomau trawiad gwres. Mae trawiad gwres yn cael ei ystyried yn argyfwng meddygol a dylech ffonio 999 os ydych yn profi symptomau megis:

  • Dal i deimlo’n sâl ar ôl gorffwys am 30 munud mewn lle oer ac yfed digon o ddŵr.
  • Ddim yn chwysu, hyd yn oed pan fyddwch yn teimlo’n rhy boeth.
  • Tymheredd o 40c neu uwch
  • Anadlu’n gyflym neu’n fyr eich gwynt.
  • Teimlo’n ddryslyd.
  • Ffit neu drawiad.
  • Mynd yn anymwybodol neu’n ddiymateb.

Mae arwyddion eraill i gadw golwg amdanynt yn cynnwys teimlo’n benysgafn, yn wan neu’n bryderus, neu teimlo’n hynod sychedig a gyda chur pen. Os ydych yn teimlo fel hyn, dylech symud i le oer cyn gynted â phosib ac yfed dŵr neu sudd ffrwythau.

Gall crampiau gwres fod yn arbennig o boenus. Os byddwch yn cael gwingiadau yng nghyhyrau eich coesau, breichiau neu fol ar ôl gweithgarwch corfforol yn y gwres, ewch i orffwys yn syth mewn lle oer ac yfed dŵr neu sudd ffrwythau.

Os nad yw’r crampiau gwres yn gwella ar ôl awr, ewch i gael sylw meddygol, ac os yw’r symptomau’n parhau, cysylltwch â’ch meddyg teulu.

Os ydych yn poeni am unrhyw o’r symptomau sydd gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ewch i wefan GIG 111 Cymru i wirio eich symptomau.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch delio â’r gwres eithafol ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Chwilio A i Y