Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn dathlu llwyddiant ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr

Mae ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol wedi ennill gwobrau mewn cystadleuaeth flynyddol gan Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig - cynllun sy’n annog dysgwyr i gymryd diddordeb yn eu treftadaeth Gymreig, yn ogystal â rhannu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth gyda’u cymunedau.

Gan hyrwyddo datblygiad y sgiliau traws-gwricwlaidd drwy’r astudiaeth o hanes a diwylliant Cymru, mae’r gystadleuaeth eleni wedi taflu goleuni ar ansawdd y gwaith sy’n cael ei gynhyrchu mewn ysgolion lleol.

Enillodd Ysgol Gynradd Ffaldau Wobr William Menelaus: Ymddiriedolaeth Addysgol Peirianwyr De Cymru am y prosiect gorau ar dreftadaeth ddiwydiannol.  Cyflwynwyd gwobr y Sefydliad Moondance i restr o ysgolion am eu gwaith yn cynnwys amrywiaeth o bynciau – yn cynnwys Ysgol Gynradd Cefn Cribwr, Ysgol Gyfun Pencoed, Ysgol Gynradd Brynmenyn ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Archddiacon John Lewis.  Enillodd Ysgol Gynradd Tynyrheol Wobr Goffa Richard Price.

Dywedodd Stacey Morgan, arweinydd y prosiect yn Ysgol Gynradd Ffaldau: “Rydym yn ymdrechu o hyd i gymryd rhan yng Nghymdeithas Dreftadaeth Cymru gan ei bod yn rhoi cyfle gwych i barhau i archwilio ein diwylliant Cymreig.  Rydym hefyd wrth ein boddau yn gweld pa themâu fydd i'r gystadleuaeth bob blwyddyn a beth fydd yn ganolog iddi.” 

Yn sgil eu prosiect ‘Diwydiant yng Nghymru, Y Gorffennol, Y Presennol a’r Dyfodol: Grym Cymru’, cafodd ddysgwyr gyfle i greu ffilm stop-symudiad mewn dosbarth cyfan a oedd yn datgelu popeth yr oeddent wedi’i ddysgu am ddatblygiad diwydiannol Cymru. Rhannwyd y ffilm gyda’u cyfoedion, yn ogystal â’r gymuned ehangach.

Dywedodd un disgybl: “Creu’r ffilm stop-symudiad oedd fy hoff ran. Cŵl oedd gweld sut mae Cymru wedi newid dros amser a gallu egluro pam.”

Enw prosiect Ysgol Gynradd Cefn Cribwr oedd ‘Cymuned Cefn Cribwr’.  Roedd disgyblion yn arbennig o falch o sut y chwaraeodd eu hardal leol rôl hanfodol ar adegau allweddol mewn hanes.  Gwnaethant ddysgu sut fu'r diwydiant lleol, gan gynnwys y pyllau glo a'r diwydiant ffermio, o gymorth o ran siapio'r dirwedd leol.

Dywedodd y Pennaeth, Stephen Howells: “Roeddem yn hynod o falch o gael ein henwebu am wobr yng Ngwobrau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2023.

“Cawsom ein beirniadu ar sail ein prosiect ysgol gyfan, ‘Cymuned Cefn Cribwr’.  Roedd cipio’r wobr yn brofiad bendigedig, ond roedd gwylio’r cyfoeth o ddealltwriaeth y gallai’r disgyblion ei harddangos wrth i’r wythnosau fynd rhagddynt yn rhoi mwy o bleser eto fyth.  Mae'n eithriadol o bwysig bod gan ein disgyblion ddealltwriaeth gref o hanes Cymru, ac mae hyn yn dechrau gyda’u cymuned. Mae gan Gefn Cribwr hanes cyffrous, ac mae'r tymor hwn wedi bod yn un rhyfeddol i staff a disgyblion.”

Rhoddwyd y teitl ‘Beth sy’n ein cysylltu ni?’ i waith Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Archddiacon John Lewis, a hawliodd Ysgol Gyfun Pencoed ei Gwobr gan y Sefydliad Moondance, gyda’i gwaith a oedd yn dathlu hanes 50 mlynedd yr ysgol.  Roedd yr aseiniad a ddewiswyd gan Ysgol Gynradd Brynmenyn, ”A yw ein harwres leol, Sarah Jane Howell, yn cael ei chofio?” yn thema hynod o bersonol i’r ysgol a’r gymuned leol, gan fod Sarah Jane Howell wedi colli ei bywyd wrth achub disgybl rhag boddi yn Afon Llyfni ar 19 Rhagfyr 1911. 

Ysbrydolodd fywyd Dr Richard Price, diwygiwr a anwyd yn Llangeinor ym 1723, y prosiect gan ddysgwyr Ysgol Gynradd Tynyrheol, a enillodd Wobr Goffa Richard Price.  Bu’r dysgwyr yn cydweithio gyda’r gymuned yn ehangach, yn ogystal â gydag ysgolheigion ar draws y byd, er mwyn archwilio i fywyd a gwaddol Dr Price. Bu i'r plant a’u gwaith chwarae rhan bwysig yn Arddangosfa Cymdeithas Hanesyddol Cwm Garw yng Nghanolfan Richard Price ac yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd – gyda phlant yn rhoi o’u hamser yn ystod eu gwyliau hanner tymor i gyflwyno eu gwaith!  Yn olaf, cynhaliodd y disgyblion eu dathliad eu hunain i rieni, y gymuned leol, gwleidyddion lleol a phartneriaid prosiect yn gynharach eleni.

Am amrywiaeth o lwyddiannau i’n hysgolion! Mae’n amlwg bod y plant wedi elwa cymaint o gymryd rhan yng Ngwobrau’r Dreftadaeth Gymreig, o ddatblygu sgiliau traws-gwricwlaidd, i ddatblygu cyfoeth o ddealltwriaeth am eu diwylliant Cymreig. Da iawn, bawb!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y