Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Menter prydau ysgol am ddim yn cael ei ehangu i ddisgyblion blwyddyn 3 mewn ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

O fis Medi 2023, bydd oddeutu 1600 o ddisgyblion ysgol gynradd sy'n dechrau ym Mlwyddyn 3 yn cael cynnig prydau ysgol am ddim.

Mae'r cynnig, sy'n cyd-fynd â dechrau'r flwyddyn ysgol academaidd newydd, yn dilyn y cyflwyno prydau ysgol am ddim blaenorol i ddisgyblion Derbyn ym mid Medi 2022, a disgyblion Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ym mis Ebrill eleni.

Mae dros 4600 o ddisgyblion y fwrdeistref sirol bellach yn gymwys i gael prydau ysgol gynradd am ddim cynhwysol, a gobeithir y bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i ddisgyblion ysgol Meithrin ym mis Ionawr 2024, disgyblion Blwyddyn 4 yn Ebrill 2024, a disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 ym mis Medi 2024.

Mae'r cynllun yn rhan o fenter Prydau Ysgol Gynradd am Ddim Cynhwysol Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2022 i gynorthwyo teuluoedd i leihau baich yr argyfwng costau byw.

Rwyf wrth fy modd ein bod bellach yn gallu cynnig prydau ysgol am ddim i ddisgyblion Blwyddyn 3 yn y fwrdeistref sirol, ynghyd â disgyblion Derbyn a Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 sydd eisoes wedi elwa o'r cynllun.

Mae'r cyllid cyfalaf sylweddol yr ydym wedi ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru wedi ein cynorthwyo i wella ac adnewyddu ceginau ysgol i ddarparu cymorth pellach i ddisgyblion a gobeithiwn ymestyn y cymorth hwn yn 2024 a cyn y pen draw gynnig pryd ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn y fwrdeistref sirol.

Unwaith eto, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eu gwaith caled parhaus i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, Aelod Cabinet dros Addysg

Bydd disgyblion Blwyddyn 3 yn elwa’n awtomatig o'r ddarpariaeth, felly atgoffir nad oes angen i rieni a gofalwyr gwblhau proses ymgeisio.

Chwilio A i Y