Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Menter busnes newydd yn cael dechrau da gyda help cyllid

Siop goffi newydd yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yw'r busnes diweddaraf i elwa o gyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac UK Steel Enterprise er mwyn helpu i roi hwb i'w busnes.

Cafodd breuddwyd Louise Elston o redeg ei siop goffi ei hun ei gwireddu pan agorodd hi a'i gŵr, Matthew, Coffee@12 ar Heol y Dderwen wyth wythnos yn ôl.

Cafodd y cwpwl gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, wedi'i darparu gan Dîm Cyflogadwyedd a Menter y Cyngor, mewn partneriaeth ag UK Steel Enterprise, ac aethant ati i fuddsoddi mewn peiriant coffi proffesiynol a gwaith trydanol a phlymio ar y safle newydd.

Treuliodd y perchnogion busnes gyfnod hir yn adfywio'r safle, a oedd wedi'i ddifrodi mewn tân, er mwyn creu amgylchedd cynnes a chyfeillgar i bobl fwynhau paned o goffi a thamaid i'w fwyta.

Dywedodd y perchennog, Louise: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac UK STeel Enterprise am gefnogi ein menter newydd. Rwyf wedi breuddwydio am fod yn berchen ar siop goffi erioed, ac ar ôl treulio 32 mlynedd yn gweithio i'r GIG, roeddwn yn teimlo mai dyma'r adeg i wireddu'r freuddwyd honno.

"Mae'r cwpwl o fisoedd cyntaf o fasnachu wedi bod yn hynod galonogol. Mae dechrau busnes newydd yn gyfnod pryderus bob amser, oherwydd nid ydych yn gwybod sut eith hi – ond rydym wedi magu llif cyson o gwsmeriaid rheolaidd, sy'n dod draw am baned a sgwrs.

"Gwnaethom ddechrau gyda the, coffi a chacennau, ond rydym bellach yn cynnig brechdanau, paninis, yn ogystal â the prynhawn, a brecwast poeth llawn – sy'n hynod boblogaidd gyda'n hymwelwyr!

"Rydym yn addas i blant ac i gŵn hefyd, felly mae digon o le i bawb! Rydym hefyd yn agor ar ddydd Sul, sy'n eithaf anarferol ar gyfer siop goffi annibynnol mewn canol tref, yn ein barn ni.

Mae Gerald a Madeline o Llidiard yn ymwelwyr cyson, ac yn cerdded draw i'r siop goffi o'u cartref o leiaf unwaith yr wythnos. Dywedon nhw: "Rydym wir yn mwynhau ymdeimlad hamddenol y siop goffi, mae'n gynnes ac yn glud, gyda chadeiriau cyfforddus iawn!

"Rydym yn cerdded lawr am baned o goffi, ac mae Gerald hefyd wedi cael y brecwast poeth, sy'n fendigedig! Ac mae'r prisiau'n rhesymol iawn hefyd!"

Rydym mor falch o allu cefnogi lansiad y siop goffi newydd sbon hon yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Gall dod o hyd i gyllid ar gyfer busnes newydd fod yn anodd, yn enwedig yn ystod y camau cynnar, gyda chostau annisgwyl ymysg rhai o'r problemau.

Rydym yn deall gwerth y cymorth ychwanegol hwn, waeth pa mor fach, wrth ddechrau busnes fel Coffee@12. Mae'n wych gweld mentrau newydd yn manteisio ar fuddion Cronfa Cychwyn Busnes Pen-y-bont ar Ogwr.

y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet y cyngor dros Adfywio

Mae'r siop goffi ar agor rhwng dydd Iau a dydd Sul ar hyn o bryd, ond mae gan Louise a Matthew eisoes gynlluniau ar waith i ymestyn yr oriau agor i saith diwrnod yr wythnos yn y dyfodol, ynghyd â chynnig opsiwn i logi'r lleoliad ar gyfer archebion preifat.

Mae rhagor o wybodaeth am Gronfa Cychwyn Busnes Pen-y-bont ar Ogwr ar gael yn: https://www.bridgend.gov.uk/business/funding/economic-futures-fund/

Anfonwch unrhyw ymholiad am eich cymhwysedd ar gyfer y cynllun dros e-bost at businessfunds@bridgend.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth am Coffee@12 ar gael ar eu tudalen Facebook.

Y Cynghorydd Neelo Farr, Louise a Matthew Elston ac Arweinydd y Cyngor, Huw David.
Louise a Matthew Elston a'r Cynghorydd Neelo Farr gyda'r peiriant coffi newydd.
Y Cynghorydd Huw David a'r Cynghorydd Neelo Farr yn mwynhau coffi yn y lleoliad newydd.

Chwilio A i Y