Meithrin eich gyrfa yn y maes gofal cymdeithasol, ac ewch i ymweld â ffeiriau swyddi sydd ar y gweill
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 24 Mehefin 2022
Ar ôl llwyddiant yr ymgyrch 'Dechreuwch yrfa mewn gofal cymdeithasol', bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn hyrwyddo swyddi gwag gofal cymdeithasol ychwanegol mewn sawl ffair swyddi drwy gydol mis Gorffennaf.
Bydd cymorth ac arweiniad ar gael i unigolion sydd â diddordeb mewn 'meithrin gyrfa' neu 'newid i rôl' o fewn y sector gofal cymdeithasol.
Bydd aelodau o dimau gofal cymdeithasol a recriwtio’r awdurdod lleol ar gael i ateb unrhyw gwestiynau ac i gynnig gwybodaeth am yr amrywiaeth o swyddi gwag a chyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael yn y maes gofal cymdeithasol. Croesewir ymholiadau gan yrwyr a phobl nad ydynt yn gyrru.
Cynhelir y digwyddiadau galw heibio, am ddim, rhwng 5pm a 7pm ar y dyddiadau canlynol:
Dyddiad |
Lleoliad |
5 Gorffennaf |
Pwll Nofio Ynysawdre Halo |
6 Gorffennaf |
Canolfan Cymorth i Oedolion, Sarn |
12 Gorffennaf |
Hwb Cymunedol y Pîl a Phorthcawl, Y Pîl |
Mae'r digwyddiadau galw heibio hyn yn gyfle gwych i bobl ifanc ddysgu popeth sydd angen ei wybod arnynt er mwyn gweithio gyda'r awduron lleol yn yr adran gofal cymdeithasol. Mae llu o fanteision sy’n deillio o weithio ym maes gofal cymdeithasol. Nid oes angen cymwysterau blaenorol na phrofiad arnoch chi, ond mae'n helpu os ydych chi'n unigolyn sydd â natur ofalgar. Nid yn unig y byddwch yn dilyn gyrfa gwerth chweil, ond mae hefyd yn swydd am byth. Rydym yn cynnig hyfforddiant llawn am ddim, a byddwn yno i gynnig cymorth a chyngor ichi ar bob cam.
Y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: