Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mazuma yn cyhoeddi cynlluniau i ymestyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dilyn buddsoddiad Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd

Mae Mazuma, cwmni cyfrifyddu ar-lein o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu ymestyn ar ôl cael miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad gan y gronfa Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd sy’n werth £50m, a gefnogir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mazuma yw un o brif gwmnïau’r DU o ran darparu gwasanaethau cyfrifyddu i ficrofusnesau, ac mae ganddo hanes blaenorol o arloesi. Sefydlwyd Mazuma gan Lucy Cohen a Sophie Hughes yn 2005, ac mae’r cwmni’n gwahaniaethu ei fusnes trwy gyfrwng model tanysgrifio sy’n caniatáu i’r tanysgrifwyr ddewis o blith amrywiaeth o becynnau cyfrifyddu cystadleuol eu pris ac elwa ar ei dechnoleg berchnogol trwy gyfrwng MazApp®.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Mazuma wedi bod yn ehangu’r busnes ac yn cyflwyno technoleg MazApp®.  Gyda’r buddsoddiad newydd hwn gan Gyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd, bydd modd i Mazuma fynd ati’n gyflymach i ddatblygu atebion technoleg gyfrifyddu newydd, ehangu’r timau marchnata a gwerthu ym Mhen-y-bont ar Ogwr a buddsoddi yn seilwaith a gweithrediadau’r cwmni i ategu twf. 

Cafodd penderfyniad Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd i fuddsoddi ei seilio ar nifer o ffactorau allweddol, yn cynnwys:

  • Ansawdd ac eglurder gweledigaeth cyd-sylfaenwyr y cwmni fel tîm rheoli sydd wedi profi’i hun, gyda’r gallu i weithredu cynlluniau’n llwyddiannus.
  • Hanes blaenorol llwyddiannus Mazuma a’r cyfleoedd i ddatblygu ac ehangu mwy yn y farchnad gyfrifyddu.
  • Technoleg a gallu’r cwmni i darfu rhagor ar fan cyfrifyddu traddodiadol microfusnesau.

Buddsoddiad Mazuma yw ail fuddsoddiad Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd. Roedd a wnelo’r buddsoddiad cyntaf ag AMPLYFI, y busnes deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol tarfol a leolir yng Nghaerdydd. Cyhoeddwyd y buddsoddiad hwnnw ym mis Medi.  Hyd yn hyn, mae’r gronfa wedi cael mwy na 160 o geisiadau am gyllid gan ddarpar gwmnïau buddsoddi ledled De-ddwyrain Cymru. 

Lansiwyd y gronfa ym mis Tachwedd 2022 a chaiff ei chefnogi gan gyllid Llywodraeth y DU gyda swm cychwynnol o £50 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r gronfa’n bwriadu buddsoddi cyfalaf hirdymor mewn cyfleoedd twf cynaliadwy ar hyd a lled y deg awdurdod unedol sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Partner Cyffredinol y gronfa yw Capricorn Fund Managers (CFM), sy’n gyfrifol am reoli’r gronfa a’r portffolio cyffredinol, ynghyd â rheoli risgiau, ac mae PwC yn cynorthwyo CFM gyda materion cynghori, yn cynnwys ymchwilio i fuddsoddiadau a chanfod buddsoddiadau.

Rydym wrth ein bodd gyda’r buddsoddiad hwn, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda thîm Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd, sy’n rhannu ein nodau a’n gweledigaeth.

Gallwn yn awr gyflymu datblygiad ein technoleg berchnogol a manteisio ar ein sefyllfa i fynd ar drywydd nodau strategol hirdymor, gan arwain at greu swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fel menyw sydd wedi treulio’r 17 mlynedd diwethaf mewn diwydiant lle rhoddir y lle blaenaf i ddynion, bydd yr hyn rydym wedi’i gyflawni yma, a’r hyn a gyflawnwn yn y dyfodol gobeithio, yn rhoi hyder i bobl gefnogi busnesau a gaiff eu harwain gan fenywod.

Lucy Cohen, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Mazuma

Medd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydym yn hynod falch o uchelgais a chyrhaeddiad cwmnïau o Ben-y-bont ar Ogwr, fel Mazuma – bydd y pethau a gyflawnir ganddynt yn atseinio ar hyd a lled y DU.  Fe wnaethom gefnogi Mazuma yng nghamau cyntaf y busnes, felly braf iawn yw gweld bod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ariannu cwmnïau arloesol fel Mazuma, sy’n helpu i gyflymu twf yn ein rhanbarth, ac yn enwedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”

I gael rhagor o wybodaeth am Gyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd, edrychwch ar https://www.cardiffinnovationinvestment.com/p/Home

Y Cynghorydd Huw David, Arweinydd y Cyngor gyda Sophie Hughes a Lucy Cohen, Mazuma a’r Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Lesiant a Diogelwch Cymunedol.

Chwilio A i Y