Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Masnachwr twyllodrus “esgeulus” yn derbyn dedfryd o garchar yn dilyn ymchwiliad gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

Yn dilyn ymchwiliad gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, derbyniodd Jordan Klein Jones, ffitiwr ffenestri ac UPVC o Ben-y-bont ar Ogwr, ddedfryd o 32 mis yn y carchar wedi iddo ddwyn miloedd o bunnoedd gan 22 cwsmer drwy dwyll.

Mewn achos a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, canfuwyd fod cwmni Jones (KJ Windows Limited) wedi bod yn cyflawni ymweliadau digroeso i dai dioddefwyr gan gymryd arian ar gyfer gwaith a deunyddiau, heb fyth ddychwelyd i gwblhau’r gwaith.

Mewn sefyllfaoedd lle llwyddwyd i gwblhau gwaith, roedd yn aml o safon wael a pheryglus. Cafodd Llys y Goron Caerdydd wybod bod dioddefwyr yn aml yn derbyn esgusodion amrywiol dros unrhyw fethiant i gwblhau gwaith, megis y tywydd, Covid-19, problemau staffio, danfoniadau coll, a bod mesuriadau anghywir wedi eu cymryd. 

Bu i’r datganiadau effaith ar ddioddefwyr ddangos bod y diffynnydd wedi cymryd mantais o ffydd trigolion ynddo, gan nodi fod rhai wedi gorfod benthyg arian i gywiro’r difrod a achoswyd ganddo. Mewn un tŷ, bu iddo dorri ffrâm un o luniau’r dioddefwr, sef llun o ŵyr y dioddefwr, a oedd wedi marw’n ddiweddar. Ni ddangosodd unrhyw drugaredd am yr hyn a wnaeth.

Yn gyfan gwbl pleidiodd Jones yn euog ar 15 cyfrif mewn gwrandawiadau blaenorol, ac nid dyma oedd y tro cyntaf i’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir orfod delio gyda Jordan Klein Jones. Cafodd ei farnu’n euog o droseddau tebyg yn 2018, o ganlyniad i ymchwiliad blaenorol.

Yn ychwanegol i'w ddedfryd o 32 mis yn y carchar, derbyniodd Jones Orchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO), a fydd mewn bodolaeth am 10 mlynedd.

Bydd y gorchymyn yn ei atal rhag canfasio am fusnes, a rhag cyfarwyddo eraill i wneud hynny ar ei ran, yn ei atal rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni ‘gwelliannau yn y cartref’, a rhag prisio gwaith yn y maes dan sylw, a chasglu arian yn ymwneud â gwaith yn y maes hwnnw.

Dywedodd y Barnwr Jonathan Rees CB fod Jones wedi masnachu’n ddiofal a hynny’n fwriadol, gan gymryd mantais o ffydd pobl drwy “swnian, aflonyddu a rhoi pwysau” arnynt i anfon arian ato. Rhoddodd y barnwr glod i Jones am bledio’n euog, a chydnabuwyd yr effaith a allai dedfryd o garchar ei chael ar deulu Jones, ond dywedodd y barnwr fod ei droseddau yn rhy ddifrifol i osgoi dedfryd o garchar.

Croesawaf yr euogfarn hon gan fod nifer o ddioddefwyr Jordan Klein Jones wedi dioddef nid yn unig o ddifrod i’w heiddo, ond hefyd niwed meddyliol.

Mae’r achos hwn yn arddangos rôl bwysig y cyngor, drwy’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, o ran erlyn troseddwyr. Mae'r euogfarn hon yn anfon neges glir i unrhyw fasnachwyr twyllodrus sy’n gweithredu o fewn y fwrdeistref sirol.

Anogaf i breswylwyr ymweld â gwefan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir er mwyn cael cyngor ynglŷn ag osgoi masnachwyr twyllodrus, ac am wybodaeth ynglŷn â sut i adrodd ar broblem o’r fath os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Gan ein bod yng nghanol argyfwng costau byw, mae hi’n bwysicach nag erioed i ni gymryd ein hamser, ac ymchwilio’n drylwyr er mwyn canfod masnachwyr dibynadwy a gonest i gyflawni ein gwaith gwelliannau yn y cartref.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio, a Chadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:

Cynhelir gwrandawiad Deddf Enillion Troseddau fis Chwefror nesaf er mwyn penderfynu ar iawndaliadau a chostau.

Chwilio A i Y