Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Marciau llawn i ddiwylliant gofalgar Ysgol Fabanod Bryntirion!

Nodwyd mai ethos gofalgar, cymunedol Ysgol Fabanod Bryntirion yw un o’i phrif gryfderau mewn arolwg diweddar gan Estyn, a gynhaliwyd ym mis Ebrill eleni.

Tynnodd yr arolygwyr sylw at y ffordd y mae llesiant disgyblion yn flaenllaw iawn yn yr ysgol, gyda staff yn adnabod disgyblion a’u teuluoedd yn dda, ac yn eu cefnogi’n sensitif pan fo’n briodol.  Cydnabu’r arolygwyr hefyd fod yr ysgol yn gymuned gynhwysol, lle gwelir bod gan staff berthynas waith gynnes a chadarnhaol gyda dysgwyr - a'u bod yn eu hannog i ffynnu a chyflawni eu potensial.

Mae’r ysgol hefyd wedi’i chanmol am ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion, gyda dysgwyr yn dewis siarad Cymraeg o’u gwirfodd wrth chwarae.

Dywedodd y Pennaeth, Katrina Pryse: “Mae staff Ysgol Fabanod Bryntirion wrth eu bodd fod Estyn yn gwerthfawrogi’r gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi ein disgyblion bregus, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd yr arolygwyr hefyd yn dathlu’r modd y mae disgyblion yn cael eu trochi yn yr iaith Gymraeg, gan arwain at blant yn defnyddio’r Gymraeg yn ddigymell. Mae ein rhieni a gofalwyr hefyd yn gwerthfawrogi ein hethos teuluol a chymunedol yn arw. Adroddiad gwych i deimlo’n falch ohono!”

O ganlyniad i ddatblygu gweithdrefnau arolygu i gefnogi'r broses o adnewyddu a diwygio addysg yng Nghymru, mae adroddiadau Estyn bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr addysg yn cefnogi plentyn i ddysgu, yn hytrach na defnyddio'r graddau crynodol a ddefnyddiwyd yn flaenorol.

 Ar hyn o bryd, mae arolygwyr Estyn yn ystyried y categorïau canlynol i ddod i gasgliad ynghylch ysgol:

  • Dim camau dilynol
  • Adolygiad gan Estyn
  • Angen gwelliant sylweddol
  • Angen mesurau arbennig

Nid oes angen dilyniant pellach ar Ysgol Fabanod Bryntirion, y cydnabyddir ei bod yn cefnogi datblygiad ei dysgwyr yn ddigonol.

Mae llwyddiant Ysgol Fabanod Bryntirion yn ei harolwg Estyn diweddar yn destun balchder mawr i ni! Yn fy marn i, y gydnabyddiaeth am ei diwylliant gofalgar yw’r cyflawniad mwyaf gwerthfawr. Sylfaen popeth yw llesiant y plant - os ydynt yn cael cefnogaeth a gofal da, gallant gyflawni eu potensial. Da iawn, Ysgol Fabanod Bryntirion! Rydym yn hynod falch ohonoch!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y