Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu

Mae Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu’r garreg filltir o 50 mlynedd ers ei sefydlu ddydd Sul, ac mae menter PopUp Wales cyffrous yn golygu y gallai stondinwyr y dyfodol fod yn agosach na’r disgwyl. 

Cafodd y farchnad ei hagor gyntaf ar ddydd Llun 15 Mai 1972, a chafodd ei hagor yn swyddogol yr wythnos ganlynol gan gadeirydd Cyngor Trefol Pen-y-bont ar Ogwr.

“Rwy’n cofio’r farchnad fel neuadd fawr a golau gyda stondinau dros dro,” meddai’r hanesydd, Natalie Murphy.

“Mae’n wych gweld bod rhai o’r stondinau yn dal i fod yn yr un lle o hyd. Er enghraifft, mae Peter Wood o’r cigydd wedi ymddeol bellach, ond mae ei fab, Tim, yn gweithio yno hyd heddiw.”

Bydd y farchnad hefyd yn byw'n hir yng nghof rhywun fel Tim, y mae ei gysylltiad â hi’n mynd yn ôl i'r dechrau.

“Rwy’n cofio’r digwyddiad agoriadol, gan fy mod yn eistedd yng nghefn fan fy nhad yn dal yr holl offer a phopeth oherwydd ein bod yn symud i mewn,” meddai Tim.

“Rwyf wedi tyfu fyny yno, oherwydd nid oedd unrhyw beth fel gofal plant ar gael yr adeg honno, ac roedd fy mam a fy nhad yn gweithio yma, felly roeddwn yn dod gyda nhw bob tro.

“Dros y blynyddoedd, rydym wedi dod i adnabod pobl fel ffrindiau a chwsmeriaid, rydym yn ymfalchïo yn ein gwasanaeth ac yn ychwanegu elfen bersonol bob amser.”

Mae Tim yn credu’n gryf yn y farchnad, ac mae’n annog unrhyw un i ymweld â hi.

“Mae llawer o gynnyrch ffres ar gael yma bob dydd. Mae cigydd yma, ffrwythau a llysiau, bara a’ch holl fwydydd lleol yn ogystal â’r eitemau hanfodol sydd eu hangen arnoch chi o ddydd i ddydd” ychwanegodd Tim.

“Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei hadnabod fel tref farchnad, a dylem drysori’r farchnad. Dylai pobl ddefnyddio’r farchnad, oherwydd fel arall, byddem yn colli ein hunaniaeth,” dywedodd.

Dywedodd Tara Tarapetian, Tara Tarapetian, Urban Foundry: “Rydym yn deall bod rhai risgiau ynghlwm â dechrau busnes newydd, felly mae PopUp Wales yn fenter sy’n cynnig lle dros dro, sy’n paru busnesau newydd â mannau gwag, fel eu bod yn cael cyfle i brofi’r farchnad am bris fforddiadwy wrth leihau’r risg iddynt.”

Mae’n amlwg o atgofion Tim Wood, bod y farchnad dan do yn chwarae rôl bwysig yn y gymuned hyd heddiw.

Mae’n wych gweld y farchnad yn dathlu 50 blynedd ers ei sefydlu, a gobeithio y bydd nifer o flynyddoedd llwyddiannus i ddod eto yn y dyfodol.

Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

Gallwch fanteisio ar y cynllun hwn drwy gofrestru eich diddordeb yn www.popupwales.com.

Chwilio A i Y