Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn ymuno â’r ymgyrch genedlaethol: ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ i gefnogi plant lleol mewn gofal

Mewn ymgais i ysbrydoli pobl i ystyried maethu, mae Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr newydd ymuno â’r ymgyrch genedlaethol, ‘gall pawb gynnig rhywbeth’ – cynllun sy’n tynnu sylw at sut mae gan bawb rywbeth i’w gynnig i’r bobl ifanc a phlant agored i niwed hynny sydd angen cartrefi maeth.  

Gyda’r nod o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, mae amcan beiddgar Maethu Cymru yn dechrau gyda’u hymgyrch newydd, sy’n defnyddio profiadau go iawn gofalwyr maeth.  Mae’r straeon sy’n cael eu rhannu yn dangos mai’r mân nodweddion dynol, ond pwysig, sydd gan bobl, sy’n gallu gwneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.

Mae’r ymgyrch yn ymateb i ymgynghoriad ag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau o’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal.  Datgelodd trafodaethau sut yr oedd tri mater allweddol yn gwneud darpar ofalwyr yn amharod i holi am y rôl:

  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a’u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
  • Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â ffyrdd penodol o fyw.
  • Camsyniadau ynghylch y meini prawf i fod yn ofalwr.

Yng ngoleuni hyn, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gofalwyr ledled y wlad i ddangos bod maethu gan awdurdodau lleol yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn dod gyda hyfforddiant helaeth, yn ogystal â chyfleoedd datblygu proffesiynol.

Mae gan y gofalwyr maeth, Kerry a Sharon, 15 mlynedd o brofiad ac yn maethu pobl ifanc yn eu harddegau yn bennaf.  Y llynedd, dyfarnwyd Gwobr ‘Teenage Whisperer’ iddynt yng Ngwobrau Cydnabyddiaeth Maethu Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae llawer o’r bobl ifanc maen nhw wedi’u maethu yn galw heibio am ginio Sul, neu baned o de a sgwrs, ac maen nhw bob amser yn hapus i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau gyda gofalwyr maeth eraill.

“I ni, mae amynedd a gwytnwch yn ddau brif sgil sydd eu hangen arnoch i faethu plant o bob oed, ond yn enwedig pobl ifanc yn eu harddegau. Allwch chi ddim cymryd popeth yn bersonol, peidiwch â chymryd pethau i’ch calonnau, ac yn y pen draw fe gewch chi’r ‘diolch’ hwnnw.  Mae’r gair bach hwnnw’n rhoi cymaint o foddhad o’i glywed.

“Mae cydnabod eu hanghenion a chael yr hyder i siarad ar eu rhan hefyd yn bwysig, oherwydd fel gofalwr maeth, chi yw eu heiriolwr.  Mae hefyd yn ymwneud â rhoi bywyd normal iddyn nhw a’u croesawu i’ch teulu, oherwydd eu bod nhw’n rhan o’ch teulu, ni waeth pa mor hir maen nhw gyda chi.

“Mae rhoi eich amser a’ch parch yn gwneud gwyrthiau, ac yn amlach na pheidio, maen nhw’n dysgu eich parchu chi hefyd.  Mae llawer o’r bobl ifanc yr oeddem wedi eu maethu o’r blaen yn dod yn ôl i gael sgwrs, neu i gael cinio dydd Sul. Mae’r potensial sydd ganddynt yn enfawr, y cyfan sydd ei angen arnynt yw’r arweiniad, y gefnogaeth a’r gofal priodol i gyrraedd yno.

“Roedd gennym eisoes yr holl sgiliau yr oedd eu hangen arnom i ddod yn ofalwyr maeth – ac mae angen i fwy o bobl wybod bod ganddynt y sgiliau hefyd.”

Ar hyn o bryd, mae Cymru’n arwain y ffordd ar gyfer gwasanaethau plant ac yn y broses o newid system gyfan.  Roedd y newidiadau a gynigiwyd yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, yn gwneud ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ 

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddi-elw.  Ar hyn o bryd, gyda dros 7,000 o blant yn y system gofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth, mae’r angen am ofalwyr maeth awdurdodau lleol yn fwy nag erioed.

Mae gofalwyr maeth ein hawdurdod lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi plant, drwy gynnig eu sgiliau, eu profiad, eu hempathi a’u caredigrwydd i sicrhau bod y plant yn teimlo’n ddiogel.

Mae angen i ni recriwtio mwy o bobl yn ein hawdurdod lleol i sicrhau bod gan bob plentyn maeth gartref croesawgar, ac yn hollbwysig, y gofalwr maeth iawn i gyd-fynd â’u hanghenion. Efallai fod llawer o bobl yn meddwl nad yw maethu yn addas iddyn nhw ac efallai y byddan nhw’n diystyru eu hunain oherwydd eu bod nhw’n meddwl eu bod nhw’n rhy ifanc neu’n rhy hen, yn sengl, neu fod ganddyn nhw blant yn barod. Rydyn ni’n croesawu gofalwyr maeth o bob cefndir, o bob oed ac o bob math.

Mae ein tîm ym Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn sicrhau bod ein gofalwyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chymorth lleol pwrpasol, ochr yn ochr â phecyn dysgu a datblygu gwych. Mae hyn, ynghyd â’r sgiliau bob dydd sydd gan lawer o ddarpar ofalwyr eisoes, yn help enfawr i gadw plant yn eu cymuned leol, yn agos at ffrindiau, eu hysgol, a phopeth sy’n bwysig iddynt. Mewn geiriau eraill, rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant.

Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i gynnig eu sgiliau a chysylltu â Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr.

Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie

Dechreuodd yr ymgyrch ddydd Llun 8 Ionawr ar y teledu, gwasanaethau ffrydio, radio, digidol, cyfryngau cymdeithasol, a gyda digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ledled Cymru. 

 I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i’r wefan.

Chwilio A i Y