Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi ei ben-blwydd drwy annog gofalwyr maeth i faethu trwy eu hawdurdod lleol.

Yr wythnos hon, mae Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf drwy fyfyrio ar flwyddyn o ymroddiad at wella gofal maeth i blant ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o Faethu Cymru, sef y rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau maethu nid er elw sy'n cynnwys 22 tîm o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae gofalwyr maeth awdurdodau lleol wedi dod ynghyd i gefnogi pobl ifanc fregus a rhieni, gyda 163 o deuluoedd maethu newydd yn cael eu ffurfio.

Er hyn, mae angen recriwtio oddeutu 700 o ofalwyr a theuluoedd maeth newydd ledled Cymru, a hynny wrth i'r wlad wynebu argyfwng costau byw parhaus.

Mae'r tîm Maethu Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr eisiau annog mwy o bobl i faethu drwy eu hawdurdodau lleol, er mwyn i blant allu aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a'u teuluoedd a'u hysgolion.

Mae ystadegau diweddar yn dangos bod 84 y cant o'r bobl ifanc a gafodd eu maethu trwy eu hawdurdod lleol y llynedd wedi aros yn eu hardal leol uniongyrchol.

I gymharu â hyn, cafodd 77 y cant o'r plant a ofalwyd amdanynt gan asiantaethau maethu masnachol eu symud o'u hardaloedd lleol er mwyn dod o hyd i leoliadau gofal maeth. Cafodd bron i 6 y cant o blant eu symud o Gymru'n gyfan gwbl.

Mae asiantaethau masnachol yn dal i wynebu beirniadaeth am wneud elw o blant sydd wedi cael profiad o ofal. Mae Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr eisiau cefnogi Llywodraeth Cymru gyda'i tharged i gael gwared ar yr elfen o wneud elw sydd ynghlwm â'r system ofal, sicrhau mai buddiant pobl ifanc sydd wrth wraidd y broses a chynnig sefydlogrwydd i ofalwyr maeth drwy ddefnyddio timau hirsefydlog a phrofiadol mewn awdurdodau lleol.

Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru:

"Mae maethu gyda'ch awdurdod lleol yn helpu i gadw plant yn lleol, sicrhau bod cymorth lleol ar gael i blant a'u gofalwyr maeth, cynnig sefydlogrwydd a gwybodaeth hirsefydlog i ofalwyr maeth a chael gwared ar elw o'r gwaith o ofalu am blant. Yn syml, dyma'r dewis gorau i'r rhan fwyaf o bobl sy'n maethu." 

Mae Amanda Wilkes yn un o'r gofalwyr maeth sydd wedi gwneud y newid o weithio gydag asiantaeth i awdurdod lleol.

Dywedodd: "Doeddwn i ddim yn deall yn iawn y gwahaniaeth rhwng maethu gydag asiantaeth a maethu gyda fy awdurdod lleol.

"Pan roeddwn yn gweithio gydag asiantaeth, treuliais naw mis dilynol heb neb yn cynnig plentyn i mi ofalu amdano. Roeddwn yn teimlo'n ddiangen a dweud y gwir.

"Ers penderfynu gweithio gyda Maethu Cymru, rydym wedi bod yn brysur ers 10 mlynedd, a dweud y gwir. Rydych yn clywed straeon ofnadwy gan yr asiantaeth am y diffyg cefnogaeth gan awdurdodau lleol, ond nid dyna'r achos o gwbl. Rwyf wedi cael llawer o gymorth a chyngor gan yr awdurdod lleol, a rhieni eraill yn yr ardal."

Dros y flwyddyn nesaf, mae Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wella gofal maeth i blant a'r rheiny sy'n gofalu amdanynt, a hynny drwy:

  • barhau i ddatblygu a gwella cefnogaeth barhaus gwobrau ar gyfer gofalwyr maeth
  • rhoi'r cymorth ariannol sydd ei angen ar ofalwyr iddyn nhw, er mwyn cynnig cyfleoedd a sefydlogrwydd i blant
  • datblygu cymorth penodol yn seiliedig ar arfer da sy'n digwydd ledled Cymru ac mewn llefydd eraill.
  • gwrando ar bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a gweithio gyda sefydliadau o'r un anian i'w cefnogi nhw a gwneud gwelliannau pellach i Faeth Cymru Pen-y-bont ar Ogwr
  • gwrando ar ofalwyr maeth drwy gynnwys y tîm cyfan yn y gwaith o ddatblygu a siapio ein cynlluniau a'n blaenoriaethu ar gyfer y dyfodol
  • cynnig cynllun dysgu personol i roi i ofalwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt, a'u datblygu, er mwyn rhoi gofal o'r ansawdd gorau i bobl ifanc
  • cynnal arfer gorau ar gyfer paru, drwy sicrhau bod cronfa eang o deuluoedd maeth ar gael er mwyn gwneud y pâr mwyaf addas o ran y gofalwr maeth a'r plentyn. Galluogi gweithwyr cymdeithasol i gyflwyno'r plentyn i'w ofalwr maeth cyn cael ei groesawu i mewn i'r cartref, hyd yn oed pan mae lleoedd maeth yn cael eu trefnu ar frys. 

I gael mwy o wybodaeth am faethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ewch i https://bridgend.fosterwales.gov.wales neu ffoniwch 01443 425007

Mae ein tîm maethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gweithio ochr yn ochr ag ysgolion a gweithwyr cymdeithasol plant i feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth dwys am y cyfleoedd neu'r heriau penodol yn ein hardal leol. Byddwn ni yno hyd at ddiwedd y daith, am y rhesymau iawn, ac yn fwy na dim, er mwyn y plant eu hunain.

Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Chwilio A i Y