Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae'r Cyngor yn gweithio drwy'r nos i atal llifogydd

Mae staff y Cyngor wedi bod yn gweithio drwy’r nos i ddosbarthu bagiau tywod, clirio draeniau a gylïau ac atal llifogydd yn eang ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dechreuodd y paratoadau ar gyfer y tywydd garw ddyddiau ynghynt wrth i weithwyr wirio a glanhau cwlferi allweddol i sicrhau eu bod yn glir cyn i'r glaw trwm gyrraedd. 

Diweddariadau:

13 Ionawr 2023

  • Mae lôn ar gau o hyd ar ffordd fynydd Bwlch (A4061) oherwydd cwlfer wedi’i lenwi. Mae staff yn parhau i weithio i glirio’r rhwystr a’r malurion. Hoffwn dawelu meddwl trigolion nad tirlithriad oedd hwn.

  • Mae swyddogion yn trefnu i glirio malurion oddi ar y ffordd ar y bont drochi ar Ffordd y New Inn, Merthyr Mawr.

12 Ionawr 2023

  • Ar hyn o bryd mae lôn ar gau ar ffordd fynydd Bwlch (A4061) oherwydd cwlfert wedi'i lenwi sydd wedi achosi i gerrig a mwd wasgaru ar draws y ffordd. Mae staff ar y safle ar hyn o bryd i glirio'r rhwystr a'r malurion. Hoffem sicrhau trigolion nad tirlithriad oedd hwn.

  • Yn ogystal, mae'r Bont Drochi yn New Inn Road, Merthyr Mawr yn parhau i fod ar gau oherwydd lefel uchel yr afon.

  • Roedd yr holl law a ddisgynnodd wedi achosi i larymau cwlfert seinio hefyd mewn ardaloedd fel Heol Faen ym Maesteg, a Min y Nant ym Mhencoed. Fodd bynnag, nid oedd y cwlferi hyn wedi'u rhwystro ac roedd y larymau wedi seinio oherwydd yr holl ddŵr a oedd yn llifo.

Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i ddangos sut mae’r cyngor yn gweithio bob awr o’r dydd a’r nos i gadw ffyrdd yn ddiogel a chlir i bobl.

Mae ein tîm wedi bod yn gweithio’n galed y bore yma i glirio llanast a malurion a adawyd ar ôl glaw trwm, ac i ail-wirio’r rhwydwaith cwlferi. Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymdrechion gwych

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y