Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae Snoopy wedi cyrraedd y llwybr cerfluniau ym Mhorthcawl

Mae llwybr celf gyhoeddus, hir-ddisgwyliedig, yn cynnwys cerfluniau lliwgar o Snoopy, wedi cyrraedd Porthcawl er mwyn codi arian ar gyfer Dog’s Trust.

Bydd chwe cherflun mawr o bartner ffyddlon Charlie Brown o’r stribed cartŵn Peanuts i’w gweld mewn lleoliadau allweddol ledled y dref o heddiw (8 Ebrill) tan 5 Mehefin 2022.

Mae'r cerfluniau wedi cael eu haddurno mewn ffordd unigryw gan artistiaid lleol, ac fe gafodd 12 o gerfluniau bychain ychwanegol o Snoopy eu creu gan ysgolion, gan gynnwys Ysgol Gynradd Brynmenyn, Ysgol Brynteg, Ysgol Gynradd Afon y Felin, Ysgol Gynradd Tondu, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig, Ysgol Cynwyd Sant, Ysgol Maesteg, Ysgol Gynradd Notais, Ysgol Gynradd Abercerdin, Ysgol Gynradd Coety, Ysgol Gynradd Pencoed ac Ysgol Gynradd Cwmfelin.

Gellir edmygu'r cerfluniau bach mewn ‘heidiau’ mewn lleoliadau dan do ym Mhorthcawl, megis yr harbwr, Canolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay a Phafiliwn y Grand.

Mae Gwyn Francis yn addysgu dosbarth Blwyddyn Pedwar yn Ysgol Gynradd Abercerdin, a soniodd am gyffro ei ddisgyblion wrth i’r llwybr lansio.

Dywedodd: “Mae’r dosbarth wedi ymgysylltu’n llwyr â’r gweithgaredd o’r dechrau un. Mae pob un ohonynt wrth eu bodd â chŵn, felly gwnaethom dreulio ychydig o amser yn trafod llesiant cŵn cyn dechrau ar y prosiect.

“Yn ein dosbarth llythrennedd un diwrnod, roeddem yn trafod sut fyddai planed berffaith yn edrych ar ôl darllen stori am bobl a oedd wedi darganfod planed siocled - yna gwnaethom feddwl y gallai fod yn syniad da ar gyfer ein gwaith celf ein cerflun ni o Snoopy, felly ein thema ni yw ‘Planed Berffaith’.”

Mae cerflun bychan Ysgol Gynradd Abercerdin i’w weld y tu allan i’r caffi ym Mae Rest, ac mae Mr Francis yn dweud bod ei dosbarth “ar binnau” i’w weld.

Gall ymwelwyr â'r dref ddod o hyd i bob un o’r darnau celf lliwgar hyn a manteisio ar gynigion arbennig gan fusnesau ar hyd y llwybr gan ddefnyddio’r ap Dog’s Trail, sydd ar gael am ddim o’r App Store a Google Play Store.

Mae map digidol hefyd ar gael i’w lawrlwytho am ddim o wefan A Dog’s Trail, ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Dywedodd Rebecca Staden, rheolwr y prosiect A Dog’s Trail with Snoopy: “Rydym ar ben ein digon o fod yn cyflwyno ein cerfluniau Snoopy ledled de Cymru o’r diwedd, ac rydym yn edrych ymlaen at weld pawb yn eu harchwilio dros yr wyth wythnos nesaf.

“Bydd A Dog’s Trail yn cynnig diwrnod arbennig i bawb, ar ddwy goes neu bedair, a bydd yn gyfle i bobl archwilio ardaloedd o dde Cymru na fyddent efallai wedi ymweld â nhw o’r blaen, wrth helpu i gefnogi'r gofal rydym yn ei gynnig i filoedd o gŵn ledled de Cymru bob blwyddyn.

Ers rhai misoedd bellach, mae’r awdurdod lleol wedi bod yn gweithio’n agos â'r Dog’s Trust, sy’n ganolfan ail-gartrefu wedi’i lleoli ger Pen-y-fai, i gynnal y llwybr byr ym Mhorthcawl fel estyniad ar y prif lwybr yng Nghaerdydd.

Mae’n gyfle gwych ar gyfer economi ymwelwyr Porthcawl, a bydd hefyd yn helpu i roi hwb i’r economi leol yn ogystal â bod o fudd i elusen arbennig sydd eisoes â chysylltiadau â’r fwrdeistref sirol.

Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

Mae noddwyr ar gyfer y digwyddiad ym Mhorthcawl yn cynnwys Coleg Penybont, sydd wedi noddi cerflun o Snoopy o’r enw Kintsugi, a fydd wedi’i leoli o flaen Pafiliwn y Grand a Bysiau First Cymru, y bydd eu cerflun o Snoopy, Happy Little Clouds, wedi’i leoli yn y bandstand ar Stryd John.

Dywedodd llefarydd ar ran Bysiau First Cymru: "Rydym ar ben ein digon i fod yn noddi un o'r cerfluniau Snoopy cyntaf erioed i’w gweld ar lwybr yn y DU.

“Dyma gyfle gwych i archwilio harddwch Porthcawl ac i gefnogi achos arbennig ar yr un pryd.”                                                                                                             

Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Penybont: “Rydym wrth ein bodd i fod yn noddi’r fenter arbennig hon ym Mhorthcawl.

“Rydym yn falch o fod yn cefnogi achos a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned, wrth annog pobl i archwilio ein hamgylchedd hyfryd a chael hwyl ar yr un pryd.”

Bydd llwybrau tebyg hefyd ar gael yng Nghaerffili ac yng Nghaerdydd yn ogystal ag ym Mhorthcawl.

Pan fo’r llwybr yn dod i ben, bydd y cerfluniau’n cael eu harwerthu mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd ar 21 Mehefin, i gefnogi gwaith Dog’s Trust. Bydd cyfle olaf i weld bob un o’r 40 o gerfluniau Snoopy mawr gyda’i gilydd mewn digwyddiad ffarwelio ar Lawnt Neuadd Dinas Caerdydd rhwng 16-19 Mehefin. Bydd tocynnau ar gyfer y digwyddiad ffarwelio ar gael yn ddiweddarach yn y mis ar wefan A Dog’s Trail.

I ddysgu mwy am y llwybr, ewch i www.adogstrail.org.uk.

Snoopy ym Mhorthcawl

Chwilio A i Y