Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae preswylwyr yn cael eu hannog i wirio eu bod yn ‘barod i bleidleisio’ ar gyfer yr etholiadau nesaf

Mae’r newidiadau i’r ffordd mae preswylwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu pleidleisio mewn person mewn gorsafoedd pleidleisio a thrwy bleidlais bost a phleidlais drwy ddirprwy yn berthnasol i etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a gynhelir ddydd Iau 2 Mai.

Bydd pleidleiswyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awr angen dangos ffurf adnabod ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio, ac fe’u hanogir yn gryf i wneud yn siŵr eu bod yn barod i bleidleisio, trwy wirio bod ganddynt ffurf adnabod ffotograffig dderbyniol, sy’n cynnwys:

  • Pasbort y DU, Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) neu’r Gymanwlad
  • Trwydded Yrru y DU
  • Tocyn teithio mantais megis tocyn bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+

Bydd preswylwyr yn gallu defnyddio dull adnabod gyda’r dyddiad wedi mynd heibio, os oes dal modd eu hadnabod o’r llun.

Cafodd y gofyn am ddangos ffurf adnabod ffotograff yn y gorsafoedd pleidleisio ei gyflwyno gan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth y DU a ddaeth i rym am y tro cyntaf ym mis Mai 2023, ac fe fydd yn berthnasol i etholiadau Senedd y Du, gan gynnwys isetholiadau a deisebau diddymi, ac etholiadau y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Nid yw’n ofynnol ar adeg etholiadau lleol neu etholiadau i’r Senedd.

Dylai unrhyw un sydd heb un o’r ffurfiau adnabod sy’n cael eu derbyn wneud cais am ffurf adnabod am ddim ar-lein yn www.voter-authority-certificate.service.gov.uk/ neu trwy gwblhau ffurflen bapur.

Mae’r rhestr gyflawn o ffurfiau adnabod derbyniol ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol, ynghyd â mwy o wybodaeth am y gofyn newydd hwn a manylion am sut i wneud cais am ffurf adnabod rhad ac am ddim yma electoralcommission.org.uk/voterID.

Meddai Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddu a Chanllawiau Etholiadol: “Bydd angen i unrhywun sy’n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddangos ffurf adnabod ffotograffig cyn iddynt dderbyn papur pleidleisio. Mae’n bwysig bod pawb yn deall pa fathau o ffurfiau adnabod y gallant eu defnyddio, a sut i wneud cais am ffurf adnabod am ddim os oes ei angen arnynt. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gofyn newydd hwn a beth i’w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio, ar wefan y Comisiwn Etholiadol.”

Gydag etholiadau yn digwydd yng Nghyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr ar 2 Mai 2024, mae’n bwysig bod y rheiny sydd am bleidleisio yn gwneud yn siŵr bod ganddynt ffurf adnabod sy’n cael ei dderbyn.

Efallai ei bod yn ymddangos yn gynnar i wneud hyn ond mae gwirio nawr yn golygu y byddwch yn barod i bleidleisio ym Mai.

Dylai unrhyw breswyliwr sydd heb un o’r ffurfiau adnabod derbyniol wneud cais am ffurf adnabod rhad ac am ddim un ai ar-lein neu trwy gwblhau ffurflen gais bapur a’i hanfon at dîm gwasanaethau etholiadol y cyngor. Os oes angen unrhyw help arnoch er mwyn gwneud cais am ffurf adnabod rhad ac am ddim, neu eich bod am wneud cais am ffurflen gais, cysylltwch gyda’r tîm gwasanaethau etholiadol ar 01656 643116.

Prif Weithredwr y cyngor a Swyddog Etholiadol, Mark Shephard

Gall preswylwyr na fydd yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad barhau i bleidleisio drwy’r post neu drwy ofyn i rywun maent yn ymddiried ynddynt i fwrw eu pleidlais drostyn nhw, sef beth sy’n cael ei alw yn bleidlais drwy ddirprwy, fodd bynnag cynghorir preswylwyr bod y newidiadau canlynol yn berthnasol:

  • Bydd gofyn i bleidleiswyr ail-wneud cais am bleidlais bost ar ôl tair blynedd.
  • Mae ceisiadau ar gael yn awr ar-lein er mwyn bwrw pleidlais drwy’r post ac ar gyfer rhai mathau o bleidlais drwy ddirprwy. Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu eu Rhif Yswiriant Gwladol wrth ymgeisio, er mwyn profi pwy ydyn nhw.
  • Mae yna gyfyngiadau i faint o bobl y gall pleidleisiwr weithredu fel dirprwy ar gyfer bwrw pleidlais. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar gyfer dau berson yn byw yn y DU y gallwch weithredu fel dirprwy. Os ydych yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer pobl sy’n byw dramor, gallwch weithredu fel dirprwy ar gyfer pedwar person ond dim ond dau o’r rhain sy’n gallu bod wedi eu lleoli yn y DU.
  • Cyfyngiad ar y nifer o bleidleisiau post sy’n gallu cael eu cyflwyno a chyfyngiadau ar bwy yw’r unigolyn sy’n ymdrin â’r bleidlais bost yn gallu bod.

Bydd y newidiadau yn berthnasol i etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys isetholiadau a deisebau diddymu, ac etholiadau y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Nid ydynt yn berthnasol i etholiadau i’r Senedd nac etholiadau cyngor lleol yng Nghymru. Ar gyfer yr etholiadau hyn, byddwch yn dal i fod angen cwblhau ffurflen gais bapur.

Gall pleidleiswyr barhau i wneud cais am bleidlais bost a phleidlais drwy ddirprwy drwy gwblhau ffurflen gais ac anfon hon at eu Swyddfa Cofrestru Etholiadaolce.

Mae gwybodaeth bellach am y newidiadau a ffurflenni cais ar gyfer pleidlais bost a phleidleisio drwy ddirprwy ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Mae angen i unrhyw un sydd am gael dweud eu dweud yn yr etholiad mis Mai yma hefyd fod wedi eu cofrestru i bleidleisio. Dim ond pum munud mae’n ei gymryd i gofrestru ar-lein yn: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Dylai pleidleiswyr sy’n dymuno gwneud cais i’w cyngor am ffurf adnabod am ddim wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru i bleidleisio yn y lle cyntaf.

Chwilio A i Y