Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae newidiadau arfaethedig i’r Polisi Trafnidiaeth Cartref i’r Ysgol/ Coleg yn barod ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar gyfer newidiadau arfaethedig i’r trefniadau trafnidiaeth cartref i'r ysgol neu goleg.

Mewn ymgais i gefnogi’r arbedion effeithlonrwydd o £792k yn y flwyddyn ariannol 2025-2026 yn y strategaeth ariannol tymor canolig, awgrymwyd nifer o newidiadau i drafnidiaeth yng nghyd-destun addysg - bydd rhai o’r addasiadau hyn yn effeithio ar y buddion ‘etifeddiaeth’ mae nifer o ddisgyblion yn eu mwynhau ar sail y cytundebau polisi cyn 2015. 

Galluogodd y cyn-bolisi ddisgyblion i gael trafnidiaeth am ddim os oeddent yn byw yn bellach na milltir a hanner o’u hysgol gynradd, neu ddwy filltir o’u hysgol uwchradd.  Pan ddaeth y polisi cyfredol i rym, parhaodd y trefniadau hyn ar gyfer dysgwyr sydd wedi profi buddion o’r fath erioed, ond nid oeddent ar gael i ddisgyblion oedd yn dechrau yn yr ysgol o’r newydd, naill ai ar lefel ysgol gynradd neu ysgol uwchradd.  Yn ogystal â hyn, roedd dysgwyr yn gallu pasio’r cymhwysedd ffafriol ymlaen i’w brodyr a’u chwiorydd bach.  Fel rhan o’r cynigion newydd, ni fydd hyn yn berthnasol mwyach - dim ond os ydynt yn byw y tu hwnt i'r pellter statudol o ddwy filltir o ysgol gynradd, neu dair milltir o ysgol uwchradd y bydd pob disgybl oed ysgol statudol yn gymwys ar gyfer trafnidiaeth am ddim.

Newid arfaethedig arall yw’r cynnig o ‘gyllideb drafnidiaeth bersonol’ i rieni neu ofalwyr disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).  I ddisgyblion gydag ADY sy’n gymwys am drafnidiaeth am ddim ar sail eu hanghenion penodol, cynigir ‘cyllideb' o 45c y filltir i  ddarparu cefnogaeth ariannol i rieni neu ofalwyr ar sail unigol, gan roi’r cyfle iddynt drefnu eu trafnidiaeth eu hunain i’r ysgol ar gyfer eu plentyn os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Yr unig drefniadau trafnidiaeth na fydd yn cael eu heffeithio fydd y rhai ar gyfer disgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd.  Er fod gofyniad statudol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg, nid yw hyn yn wir yn achos addysg ffydd.  Serch hynny, mae cefnogi penderfyniadau unigolion yn ymwneud ag addysg yn ganolog i bolisi cenedlaethol, yn ogystal â pholisi lleol ac o ganlyniad, cynigir i’r ddarpariaeth trafnidiaeth barhau heb newid.

Isod mae crynodeb o’r newidiadau arfaethedig i'r Polisi Trafnidiaeth Cartref i'r Ysgol/Coleg:

  • Tynnu trafnidiaeth i holl ddysgwyr sy’n byw o fewn y pellter statudol i’r ysgol gynradd addas agosaf, neu dair milltir o’r ysgol uwchradd addas agosaf, sy’n gallu cerdded i’r ysgol yn ddiogel ar lwybr sydd wedi’i nodi, yn ôl.
  • Tynnu gwarchodaeth etifeddiaeth brodyr a chwiorydd i ddisgyblion yn ôl.
  • Tynnu pob trafnidiaeth i ddisgyblion Meithrin (gan eithrio’r rhai sy’n mynychu eu hysgol cyfrwng Cymraeg addas agosaf neu ysgol ffydd) yn ôl.
  • Tynnu pob trafnidiaeth ôl-16 yn ôl (i bob ysgol a cholegau), gan eithrio disgyblion sy’n mynychu’r ysgolion canlynol:
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd; Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath; Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf.
  • Y cynnig i rieni/gofalwyr disgyblion gydag ADY yw'r opsiwn o ‘gyllideb drafnidiaeth bersonol’ yn darparu lwfans milltiroedd o 45c y filltir.

Mae’r gyllideb drafnidiaeth i ddysgwyr wedi bod dan bwysau ariannol sylweddol ers nifer o flynyddoedd. Mae gwariant trafnidiaeth cartref i’r ysgol neu goleg wedi cynyddu o tua £6m ar ddiwedd 2020-2021, i swm arfaethedig o £10m ar ddiwedd 2023-2024, gyda chyllideb gyfredol o bron i £9m yn unig. Ers y pandemig, mae'r farchnad drafnidiaeth wedi cael cyfnod digalon gyda phrisiau’n mynd yn sylweddol yn uwch flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae’r newidiadau awgrymedig i’r Polisi Trafnidiaeth i'r Ysgol/Coleg wedi cael eu hystyried yn ofalus o ran tegwch, cynhwysiant yn ogystal â chost. Mae’r addasiadau arfaethedig yn dal i sicrhau y gall pob plentyn, waeth beth yw ei hamgylchiadau, gyrraedd lleoliad addysg addas.

Rydym yn gweld llawer o werth i farn disgyblion a’u rhieni neu ofalwyr ac rydym yn annog y rhai sydd o bosib yn cael eu heffeithio gan y cynigion hyn i gyfathrebu drwy’r ymgynghoriad 12 wythnos, y disgwylir iddo ddechrau ym mis Ebrill 2024.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y