Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae hanner tymor wedi cyrraedd, gyda gweithgareddau ar gael ledled y fwrdeistref sirol!

Mae gwyliau hanner tymor wedi cyrraedd - gan gynnig y cyfle perffaith i fwynhau amser gyda’r teulu a chymryd rhan mewn gweithgareddau ledled y fwrdeistref sirol!

Mae’r buddion o fod yn yr awyr agored, yn arbennig yng nghanol byd natur, yn ddiddiwedd – gan amrywio o leihau gorbryder i roi hwb i hunanhyder ac mae’r fwrdeistref sirol yn cynnig llu o gyfleoedd awyr agored i’w harchwilio. 

Mae Parc Gwledig Bryngarw Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cynnal gweithgareddau adeiladu blychau adar, yn ogystal â chynnig y parciau chwarae arferol yn ei leoliad hardd.

I archwilio mannau prydferth eraill, o’r arfordir i gefn gwlad, sydd i’w cael ar ein stepen drws, ewch i’r wefan

Mae gweithgareddau wedi’u trefnu hefyd gan Rwydwaith Natur Cwm Taf, sy’n amrywio o Helfa Pryfed y Gaeaf i Arddangosiad Falconry UK. 

Mae treulio ychydig o amser yn ein theatrau lleol yn argoeli’n dda fel hwb i lesiant!  Mae Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr Awen - cwmni theatr o fri ar gyfer pobl ifanc rhwng 7 ac 18 oed – yn perfformio ‘Rent’ ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl, o 23 i 25 Chwefror.  Mwynhewch noson o adloniant gyda doniau lleol y dyfodol!

Yn ogystal, mae canolfannau Halo ar hyd a lled y fwrdeistref sirol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol gwyliau’r hanner tymor, gan roi blaenoriaeth i iechyd a ffitrwydd y teulu! Ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael mae nofio, hwyl chwarae meddal a sesiynau Neidio a Chwarae.  I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei gynnig yn eich canolfan Halo leol, ewch i’r wefan.

Mae rhestr lawn ac amrywiol o weithgareddau y gall teuluoedd ei mwynhau drwy gydol yr wythnos, a fydd yn difyrru a diddanu bob aelod o’r teulu!

Chwilio A i Y