Mae gwelliannau ar y gweill ar gyfer llwybr teithio llesol yr A48
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 23 Rhagfyr 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu gwaith i wella’r llwybr teithio llesol ar hyd yr A48, o gylchfan Waterton i’r gylchfan yn Picton Court.
Bydd y datblygiad, sydd wedi’i drefnu am gyfnod o tua 12 wythnos ac sy’n dechrau ar 3 Ionawr 2023, yn darparu cyfleusterau teithiol llesol i gerddwyr a beicwyr sy’n teithio ar hyd y llwybr. Bydd hefyd yn ehangu ar y rhwydwaith teithio llesol presennol o Ben-y-bont ar Ogwr i Bencoed - gan ddarparu mynediad mwy uniongyrchol i unedau deheuol Parc Manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr.
Ar gost amcangyfrifedig o £586,00 ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd gwelliannau’n cynnwys lledu llwybrau troed ar hyd yr A48 i greu adnoddau a rennir, ailadeiladu llwybrau troed ac ymylon, clirio llystyfiant, gwelliannau i arwyddion traffig a goleuadau stryd, a mwy.
Mae’r rhain yn newidiadau cadarnhaol sy’n cael eu gwneud ar draws y fwrdeistref sirol, gan ganiatáu hyblygrwydd wrth deithio.
Yn sgil mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd presennol, yn ogystal â’r cynnydd mewn costau byw, heb sôn am y manteision iechyd sy’n gysylltiedig â theithio llesol - bydd mabwysiadu dulliau newydd o deithio yn sicr o elwa pobl yn ein cymuned.
Er ein bod yn sicrhau y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i darfu cyn lleied â phosibl, yn anffodus, bydd rhywfaint o darfu yn annochel. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio mai anghyfleustra dros dro a gawn a bydd y canlyniad yn werth chweil.
Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick