Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mae disgyblion Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 mewn ysgolion ar draws Pen-y-bont ar Ogwr ar fin elwa o brydau ysgol am ddim.

O 17 Ebrill, dechrau tymor yr haf, bydd holl blant Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cynnig prydau ysgol am ddim.

Mae disgyblion Dosbarth Derbyn wedi elwa o brydau ysgol am ddim ers mis Medi 2022.  Mae ehangu’r cynnig i ddisgyblion Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ar ôl gwyliau'r Pasg yn golygu y bydd 4700 o ddysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim i bawb.

Mae’n wych bod yr awdurdod lleol yn cefnogi teuluoedd yn y ffordd hon.

Mae’n bwysig iawn egluro bod y cynnig prydau ysgol am ddim ar gyfer holl ddisgyblion mewn adrannau babanod mewn ysgolion, waeth beth yw eu hamgylchiadau teuluol.

Yn ogystal â disgyblion Dosbarth Derbyn, sydd wedi elwa o'r fenter hon ers mis Medi 2022, bydd holl ddisgyblion Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 hefyd yn elwa’n awtomatig o'r ddarpariaeth, felly nid oes angen i rieni a gofalwyr gwblhau proses ymgeisio.

Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eu gwaith caled parhaus i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn.

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y