Llyfrau cydymdeimlo cyhoeddus ar gael y penwythnos hwn wrth i’r Proclamasiwn Brenhinol gael ei gynnal
Poster information
Posted on: Dydd Sul 11 Medi 2022
Yn dilyn y cyhoeddiad gan Balas Buckingham am farwolaeth Ei Mawrhydi Brenhines Elizabeth II, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gosod llyfrau cydymdeimlo mewn mannau lle gall y gymuned leol nodi negeseuon personol a theyrngedau.
Yn Swyddfa’r Sir, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, bydd y llyfrau cydymdeimlo ar gael bob diwrnod yn ystod y cyfnod o alaru cenedlaethol, gan gynnwys penwythnosau, tan y diwrnod cyn angladd Brenhines Elizabeth II.
Mae’r llyfrau ar gael i bobl eu harwyddo rhwng 10am-4pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, 9am-4.30pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a 9am-4pm ar ddydd Gwener.
Gall unrhyw un sy’n dymuno anfon neges o gydymdeimlad ar-lein, fynd i wefan y Teulu Brenhinol . Mae lle ar gael hefyd yn Swyddfa’r Sir i osod blodau fel teyrnged gan bobl leol.
Ar ddydd Sul 11 Medi, cynhelir seremoni o Broclamasiwn Brenhinol am 1.30pm yn Swyddfa’r Sir, lle bydd Ei Fawrhydi y Brenin Charles III., yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol gan y Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Fel arwydd o barch, bydd baneri yn Swyddfa’r Sir yn cael eu gostwng i’r hanner. Byddant yn cael eu codi i nodi proclamasiwn dyfodiad y teyrn newydd, ac yna’n dychwelyd i’r hanner hyd nes i angladd Brenhines Elizabeth II gael ei gynnal.
Gan roi sylw ar farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, , dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David:
Drwy gydol ei bywyd, gwasanaethodd y Frenhines Elizabeth II ei theulu a’i gwlad mewn modd cwbl anhunanol. Byddwn yn cyflwyno rhagor o gyhoeddiadau dros y dyddiau nesaf, ac mae ein meddyliau a’n cydymdeimladau gyda’r Teulu Brenhinol yn parhau yn ystod y cyfnod trist hwn.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David
Er i’w marwolaeth fod yn golled enfawr i’r Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad, mae’r Frenhines Elizabeth II yn gadael etifeddiaeth o gryfder ac ysbrydoliaeth ar ei hôl.
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr