Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Llesiant disgyblion yn brif flaenoriaeth i staff Ysgol Gynradd Garth

Yn ystod arolwg Estyn diweddar, nodwyd bod llesiant disgyblion yn hollbwysig i staff Ysgol Gynradd Garth, yn ogystal â chreu amgylchedd lle mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac wedi’u meithrin.

Yn ôl yr adroddiad Estyn, mae’r diwylliant gofalgar hwn yn cael dylanwad positif ar lesiant disgyblion yn ogystal â’u hagwedd tuag at yr ysgol.  Bu i’r arolygwyr amlygu perthynas waith gref, sy’n seiliedig ar barch rhwng staff a disgyblion – gan alluogi dysgwyr i deimlo’n ddiogel a gwneud camgymeriadau, yn ogystal â gofyn am help.

Mae’r ethos cefnogol hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y perthnasoedd rhwng staff.  Mae ymdeimlad cryf o gydweithio yn yr ysgol, gyda’r pennaeth, uwch arweinwyr a staff yn gweithio gyda’i gilydd mewn modd cadarnhaol.  Cafodd swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yr ysgol hefyd eu cydnabod am eu cyfraniad i fywyd a gwaith yr ysgol, gan eu bod yn trefnu ystod eang o fentrau i gefnogi myfyrwyr a’u teuluoedd. 

Cafodd y pennaeth, Amy Hatch-Walker, ei chydnabod am ei hangerdd a’i hymrwymiad i arwain yr ysgol, yn ogystal â datblygu gweledigaeth glir sy’n canolbwyntio ar ddatblygu safonau uchel ac ysgogi newid.  Wrth drafod yr adroddiad, dywedodd: “Rwy’n hynod falch o lwyddiant Ysgol Gynradd Garth, ac roeddwn wrth fy modd o glywed bod y tîm yn gwerthfawrogi ein hethos gofalgar, hapus, gan nodi bod llesiant ein disgyblion wrth galon ein holl waith.

“Roeddem hefyd yn hynod falch bod ein gwaith gyda’n teuluoedd wedi’i amlygu fel rhywbeth sy’n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned. Mae hyn yn destun balchder mawr i ni. Mae Ysgol Gynradd Garth yn ysgol brysur, sy’n ffynnu, lle mae ein plant yn cael eu hannog i lwyddo, i fod yn uchelgeisiol, ac i ‘anelu am y sêr’. Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i ddarparu'r addysg a'r profiadau gorau posib i’n plant.”

Da iawn, Ysgol Gynradd Garth! Am arolwg Estyn rhagorol! Peth anhygoel yw cael cydnabyddiaeth am flaenoriaethu llesiant disgyblion, gan fod yr holl waith arall yn cael ei ddatblygu ar y sylfaen honno. Edrychaf ymlaen at wylio’r ysgol yn parhau i dyfu o nerth i nerth. Llongyfarchiadau i bawb!

Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y