Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Lleisiwch eich barn ar gynlluniau ar gyfer campws coleg newydd

Mae trigolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i leisio'u barn am gynlluniau cais cyn-gynllunio a all newid siâp canol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae yna ymgynghoriad cyhoeddus ar greu campws sgiliau a dysgu gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn Cheapside yng nghanol y dref yn mynd rhagddo.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys adeiladu adeilad chwe llawr ar safle'r hen orsaf heddlu, ac ail adeilad a fyddai'n cymryd lle'r cyn faes parcio aml lawr fu'n rhaid ei gau yn 2021 oherwydd problemau strwythurol.

Byddai'r prif adeilad yn cynnwys awditoriwm 200 sedd ac yn darparu lleoliad i adrannau sy'n ymwneud â'r celfyddydau mynegiannol, arlwyo, celfyddydau gweledol, busnes, cosmetoleg, gwallt a harddwch, anghenion dysgu ychwanegol a sgiliau byw'n annibynnol.

Byddai'r ail adeilad yn cynnwys ystafelloedd dosbarth yn bennaf, a lle i addysgu am ofal plant, gofal cymdeithasol, iechyd a llesiant a chyrsiau addysg uwch.

Byddai'r adeiladau yn gwasanaethu o leiaf 1,000 o staff a myfyrwyr rhyngddynt, gan greu mwy o ymwelwyr â chanol y dref a darparu cymorth i siopau lleol a masnachwyr yn ogystal â buddsoddiad ffres.

Rydym eisiau i hwn fod yn brosiect angori o fewn cynlluniau adfywio canol ein tref gan wneud Pen-y-bont ar Ogwr yn gyrchfan unigryw ar gyfer cyfleoedd hyfforddi a dysgu o'r radd flaenaf.

Ynghyd â'n cynlluniau i ddatblygu cysylltiadau cludiant cyhoeddus gwell a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad i'r cyfleusterau, mae'r cynnig hwn yn ffurfio rhan bwysig o Brif Gynllun Adfywio'r cyngor, ac rwy'n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosib yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac yn lleisio'u barn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr

Lleisiwch eich barn

Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i wefan Asbri Planning.

Dyddiad cau: 12 Hydref 2022

Chwilio A i Y