Lleisiwch eich barn ar gynigion am ysgol o'r radd flaenaf
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 26 Ebrill 2022
Mae gwahoddiad i aelodau o’r cyhoedd gael lleisio eu barn am gynigion i ddarparu ysgol newydd o'r radd flaenaf yn lle Ysgol Pont y Crychydd.
Bydd yr ysgol newydd a gynigir yn golygu ail leoli'r ysgol o Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr i Island Farm a chynyddu nifer y disgyblion i 300.
Y gobaith yw y byddai'r cynllun yn diwallu'r cynnydd digynsail yn nifer y dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ardal o ganlyniad i'r lleihad yn nifer y dysgwyr sy'n cael eu hanfon o'r sir am eu haddysg.
Byddai'r ysgol hefyd yn darparu llety sy'n cwrdd ag anghenion y mwyafrif o'r dysgwyr mwyaf bregus a byddai yno fwy o lefydd preswyl.
Mae preswylwyr, llywodraethwyr yr ysgol, rhieni a gofalwyr, disgyblion a staff yr ysgol yn cael eu hannog i leisio’u barn yn yr ymgynghoriad ar-lein a geir ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Rhagwelir y bydd y cynnig yn dod i rym ar ddechrau tymor yr hydref 2026.
Bydd y cynlluniau hyn yn golygu y bydd Pont y Crychydd yn gweld ehangu capasiti sydd wirioneddol ei angen yn ogystal â chynnig cyfleusterau o safon uchel a fydd yn fuddiol iawn i ddysgwyr a staff yr ysgol.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gam hanfodol yn y broses, ac rwy’n annog pobl i leisio’u barn ar y cynigion.
Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd