Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Lladron yn targedu mynwentydd ac yn amharu ar gyflenwadau dŵr

Mae Heddlu De Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog trigolion i fod yn wyliadwrus ac i adrodd unrhyw ymddygiad amheus y gallant fod yn dyst iddo mewn mynwentydd lleol.

Mae'n dilyn cyfres o ladradau lle mae lladron wedi torri i mewn i gabanau torwyr beddau a chytiau cynnal a chadw mewn pum mynwent dan ofal y cyngor.

Mae'r lladron, sy'n ymddangos i fod yn targedu eitemau metel, wedi fandaleiddio a difrodi'r mynwentydd wrth geisio cael mynediad cyn tynnu pibellau, tapiau a mwy.

Mae hyn wedi gadael y mynwentydd heb gyflenwad dŵr, sydd wedi achosi problemau ar gyfer galarwyr a theuluoedd sy’n galaru sydd wedi bod yn ymweld â'r mynwentydd i dalu teyrnged a gofalu am feddau.

Hyd yn hyn, mae’r lladradau wedi digwydd mewn mynwentydd ym Mhontycymer, Bro Ogwr, Porthcawl, Corneli a Threlales, ac mae pob mynwent wedi cael ei fandaleiddio hefyd. Mae hyn wedi golygu nad oes gan y mynwentydd gyflenwad dŵr, sydd wedi achosi poen i deuluoedd ac unigolion sy’n galaru, sydd wedi bod yn gofalu am feddau eu hanwyliaid yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Mae’r achosion o fandaleiddio a lladrata wedi'u hadrodd i Heddlu De Cymru, ac mae’r cyngor yn rhoi trefniadau ar waith i drwsio’r difrod ac i adfer y cyflenwad dŵr ym mhob un o’r mynwentydd dan sylw. Rydym hefyd yn ystyried ffyrdd o atal y gweithredoedd troseddol creulon hyn yn y dyfodol.

Mae targedu mynwentydd, arddangos amarch llwyr i’r meirw ac achosi poen diangen i bobl sydd eisoes yn galaru, yn ffiaidd ac yn anghyfrifol, ac rwy’n gobeithio bod y troseddwyr sydd wedi gwneud hyn yn cael eu dal yn fuan ac yn cael eu dwyn o flaen eu gwell.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd:

Gall unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y lladron gysylltu â'r heddlu’n gyfrinachol drwy’r rhif 101 - cofiwch ddyfynnu un o’r cyfeirnodau trosedd canlynol wrth wneud eich galwad:

  • Mynwent Trelales - 2300394859
  • Mynwent Corneli - 2300395227
  • Mynwent Porthcawl - 2300395257
  • Mynwent Bro Ogwr - 2300395286
  • Mynwent Pontycymer - 2300395313

Chwilio A i Y