Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Lansio gwasanaeth gofalwyr ifanc newydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf newydd wedi’i lansio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel rhan o Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr. 

Cynhelir y rhaglen mewn partneriaeth â Whitehead-Ross Education, Llywodraeth Cymru, a Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr. 

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn un o nifer o raglenni sy’n ffurfio rhan o’r Grant Plant a Chymunedau, ac sy’n ceisio mynd i’r afael â chymorth ac anghenion y plant ac oedolion mwyaf bregus yn ein cymunedau.

Mae’r cynllun yn helpu i gynorthwyo aelwydydd sy’n profi heriau tymor byr neu dymor hir drwy sicrhau bod teuluoedd yn derbyn cymorth mewn ffordd sy’n briodol i’w hanghenion.

Mae’r holl wasanaethau a ddarperir drwy Teuluoedd yn Gyntaf yn ystyried yr egwyddorion allweddol canlynol:

  • Canolbwyntio ar y teulu- canolbwyntir ar ddull gweithredu teulu cyfan  
  • Unigryw– mae gwasanaethau wedi’u teilwra i amgylchiadau teulu unigol
  • Integredig- mae cynlluniau ar waith er mwyn sicrhau dilyniant llyfn i deuluoedd sy’n symud rhwng gwahanol raglenni
  • Lleol- bydd gwasanaethau’n mynd i’r afael ag anghenion cymunedau lleol ac yn chwilio am gyfleoedd i gysylltu â rhaglenni lleol eraill
  • Rhagweithiol- ceisio adnabod anghenion yn fuan a sicrhau ymyriadau priodol yn brydlon
  • Cynaliadwy- mae gwasanaethau’n ceisio mynd at wraidd achosion y problemau yn hytrach na’r symptomau’n unig

Bydd lansiad y rhaglen newydd hon yn helpu cymaint o deuluoedd a phobl ifanc yn y fwrdeistref sirol drwy gyflwyno dull hynod bersonol, sy’n sicrhau bod teuluoedd yn derbyn y gefnogaeth benodol sydd ei hangen arnynt.

Mae’n wych cael gweithio â phartneriaid fel Whitehead-Ross Education a bydd y cynlluniau sydd ar waith ganddynt yn sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ac yn ei haeddu.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar:

Dywedodd Ian Ross, Rheolwr Gyfarwyddwr Whitehead-Ross Education: “Rydym yn hynod falch o gael gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth weithredu’r gwasanaeth arloesol newydd hwn ar gyfer gofalwyr ifanc. 

“Yn cael ei gyflwyno o’n canolfan newydd ar Heol Five Bells, rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd â chyfrifoldeb am ofalu gyda chymorth un i un, gweithdai yn seiliedig ar faterion, a chlybiau ieuenctid gyda gweithgareddau cymdeithasol cyffrous, a chyfleoedd i ofalwyr ifanc ennill cymwysterau sgiliau bywyd newydd. Mae’r rhaglen yn darparu gwasanaeth cludiant o’r cartref, gan sicrhau y gall bob gofalwr ifanc gael mynediad at y cymorth sydd ar gael yn wythnosol.”

Chwilio A i Y