Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hwb i natur ar gyfer 10 ardal leol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr diolch i grant o £250,000

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael grant gwerth £250,000 gan y prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae’r prosiect yn anelu at greu ‘natur ar stepen eich drws’ drwy ganolbwyntio ar leoliadau cyffredin megis lleoliadau ble mae unigolion yn byw, gweithio neu’n ymweld â nhw.

Bydd y gwelliannau yn cynnwys plannu coed, plannu gwrychoedd, creu perllannau, plannu bylbiau blodau gwyllt ac ardaloedd ‘dim torri’r lawnt’.

Gobeithir hefyd y bydd y gwaith yn cael dylanwad positif ar ystod o rywogaethau megis peillwyr, ystlumod, a mamaliaid bach, yn ogystal â gwella’r ardaloedd ar gyfer cymunedau lleol.

Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yw partner darparu’r cyngor ar gyfer y fenter, ac maent ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriadau ar y cynlluniau.

Gwahoddir preswylwyr i roi eu hadborth yn y deg lleoliad canlynol sydd wedi’u dewis ar gyfer y prosiect:

  • 13 Ionawr
    • 13:30 - 15:00 – Parciau a Mannau Gwyrdd, Gogledd Corneli, Prif leoliad: Heol Onnen, CF33 4DR
    • 16:00 - 17:30 – Oakwood, Maesteg Prif leoliad: Oakwood, CF34 9UA
  • 16 Ionawr
    • 8:30 – 10:00 – Parc Chwarae, Tondu Prif leoliad: Parc Chwarae Tondu, CF32 9BL
    • 11:00 – 12:30 – Bryn Road, Brynmenyn Prif leoliad: Parc Brynmenyn, CF32 9LF
    • 13:30  – 15:00 – Parciau a Mannau Gwyrdd, Sarn Prif leoliad:  Llansantffraid Isaf, CF32 9NN
    • 16:00 – 17:30 – Caeau Newbridge Fields, Pen-y-bont ar Ogwr Prif leoliad: Caeau Newbridge, CF31 4BP
  • 17 Ionawr  
    • 8:30 – 10:00 – Parciau a Mannau Gwyrdd, Cefn Glas Prif leoliad: Barnes Park, CF31 4QF
    • 11:00 – 12:30 – Parciau a Mannau Gwyrdd, Bryntirion Prif leoliad: Broad Oak Way, CF31 4EQ
    • 13:30  – 15:00 – Parciau a Mannau Gwyrdd, Y Castellnewydd Prif leoliad: Y tu ôl i Ganolfan Gymunedol Westward, CF31 4JR
    • 16:00 – 17:30 – Parciau a Mannau Gwyrdd, Mynydd Cynffig Prif leoliad: Heol yr Ysgol, CF33 6DT

Mae’n braf gweld bod cynifer o gymunedau lleol yn rhan o brosiect mor bwysig fydd yn dod â nifer o fanteision i’r amgylchedd a chymunedau lleol yn gyffredinol.

Mae’n wych gweithio gyda phartneriaid megis Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ar y prosiect hwn, a hoffwn annog preswylwyr i rannu eu safbwyntiau am y cynlluniau cyffrous hyn yn yr ymgynghoriadau sydd i ddod.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod y Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y