Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hwb i fusnes Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr ar fin elwa ar hwb mewn cyllid er mwyn helpu i ddatblygu cyfleoedd busnesau bach a chynyddu diddordeb cwsmeriaid a nifer yr ymwelwyr.

Mae'r cyngor wedi cael £120,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU, i gyflawni Prosiect Elevate and Prosper Pen-y-bont ar Ogwr. 

Mae £11,800 ychwanegol wedi'i dderbyn fel arian cyfatebol drwy fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy'n rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cymorth ar gyfer adnewyddu canol trefi yng Nghymru.

Mae gweithgareddau prosiect yn cael eu cynnal ledled y fwrdeistref sirol mewn canol trefi fel Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Maesteg a Phencoed, yn ogystal â threfi llai mewn cymunedau gwledig. 

Un o brif feysydd allweddol gwaith y prosiect yw Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr, wedi'i leoli yng Nghanolfan Siopa'r Rhiw, Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae cyfres o fentrau dros dro yn cael eu datblygu i greu cyfleoedd i fusnesau newydd a microfusnesau sefydlu a thyfu. Y gobaith hefyd yw y bydd hyn yn arwain at fwy o ymwelwyr, a bod pobl yn treulio rhagor o amser yn y farchnad. Yn ogystal â chynnig lleoliad a helpu i gyfryngu'r broses, mae'r prosiect hefyd yn cynnig cyngor a chymorth busnes cyffredinol, yn ogystal â grantiau bach i helpu datblygiad busnes ymhellach.

Dyma gyfle gwych i ddatblygu fy musnes bach, ac rwy'n edrych ymlaen at dreialu fy nghynnyrch gyda chynulleidfa ehangach ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr. Rwyf mor ddiolchgar o'r cymorth mae'r fenter Pop Up Wales wedi'i gynnig i mi, ac rwy'n edrych ymlaen at sefydlu Kat’s Wax, Wick and Wonders.

Katrina Evans, entrepreneur newydd sy'n cymryd rhan yn y fenter

Mae hwn yn newyddion cyffrous ar gyfer pobl yn y fwrdeistref sirol, ac yn gyfle gwych i fusnesau newydd a darpar entrepreneuriaid brofi eu syniadau busnes yn y farchnad.

Mae'r lefel o gyngor a chymorth ariannol a gynigir drwy'r fenter hon yn cynnig cyfle delfrydol i unigolion sefydlu menter heb lawer o gostau, ac yn cynnig y cyfle gorau iddynt lwyddo wrth fuddsoddi yn yr economi leol, a helpu i'w feithrin.

Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet y cyngor dros Adfywio

 

Am ragor o fanylion ac i gofrestru eich diddordeb yn y lleoedd dros dro sydd ar gael, ewch i wefan Pop-up Wales.

Chwilio A i Y