Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hwb Cyflogadwyedd newydd yn agor yng nghanol tref Maesteg

Mae tîm Cyflogadwyedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi agor hwb cymorth newydd i geiswyr gwaith yng nghanol tref Maesteg.

Mae’r rhaglen Cyflogadwyedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop wedi’i dylunio i oresgyn yr heriau cyflogaeth a wynebir gan bobl mewn cymunedau lleol.

Ers 2016, mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi dros bum mil o unigolion, yn cynnwys 740 o bobl ifanc.

Mae 1,800 wedi cael hyfforddiant, 360 wedi cael cymorth i wirfoddoli a 1,740 wedi ennill cyflogaeth. Yn ogystal, cefnogwyd 160 o bobl oedd eisoes yn gweithio i gael swydd well.

Bydd yr hwb, sydd wedi’i leoli yn Nhŷ Llynfi, Ffordd Llynfi, Maesteg, ar agor ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau o 9:30am tan 3:30pm, gan gynnig ystod o adnoddau, a fydd yn cynorthwyo pobl â phob agwedd ar ddod o hyd i waith. 

Mae gan yr hwb ystafell hyfforddi ar gyfer cyrsiau, clwb swyddi a mynediad i'r rhyngrwyd i gefnogi pobl wrth iddynt chwilio am waith. Mae yna hefyd ystafelloedd cyfarfod llai ar gael a all gynnal apwyntiadau unigol gyda mentoriaid ymroddedig, a fydd yn helpu i gynllunio taith cyflogaeth person.

Anelir y rhaglen Gyflogaeth at unigolion dros 16 oed, sydd:

  • yn ddi-waith
  • angen mwy o oriau
  • angen ail swydd neu swydd newydd

 Mae’r rhaglen yn dod o hyd i gymwysterau galwedigaethol, a chyfleoedd gwirfoddoli, yn ogystal â rhoi’r cyfle i ddatblygu rhinweddau personol, megis hyder.

Mae yna hefyd wasanaeth brysbennu ar gael, sy’n paru unigolion gyda’r cymorth cywir cyn gynted â phosib.

Mae yna hefyd gysylltiadau ag amrywiaeth eang o rwydweithiau cymorth eraill fel canolfannau gwaith, Baobab Bach (Pantrïau Cymunedol), Cyngor ar Bopeth (CAB), Cyfle Cymru, yn ogystal â Cholegau Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae gan dîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr hanes rhagorol o ddarparu cymorth a chefnogaeth i bobl sydd naill ai'n dechrau ar eu taith cyflogaeth neu eisiau dychwelyd i'r gwaith.

Bydd yr hwb newydd hwn o fudd i bobl Maesteg drwy sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad hawdd at wasanaethau Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr. Gall unigolion nawr alw i mewn a siarad ag aelod o'r tîm a all helpu gyda gwybodaeth am swyddi gwag presennol, yn cynnwys o fewn yr awdurdod lleol, yn ogystal â chyngor ar gyfleoedd hyfforddi a chymorth, swyddi gwirfoddol a llawer mwy.

Dyma’r cyntaf o dri hwb newydd i gael eu hagor yn y fwrdeistref sirol, gyda hybiau tebyg i’w hagor ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl yn fuan.

Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Adfywio, y Cynghorydd Neelo Farr

Chwilio A i Y