Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Helpu'r Digartref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a'i bartneriaid, yn gwneud amrywiaeth eang o waith i gefnogi pobl sy'n ddigartref ac yn cynnig gwasanaethau pwrpasol sy'n eu helpu nhw i beidio â byw ar y strydoedd - felly, pam ydyn ni'n dal i weld pobl yn cysgu allan?

Mae'r Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, yn credu bod pobl yn dod yn ddigartref am amrywiaeth o resymau.

Ar ddechrau'r pandemig Covid 19, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfrifoldebau newydd i gynghorau lleol i sicrhau bod llety dros dro ar gael i bobl ddigartref.

Ers hynny, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi trefnu cyfarfod wythnosol sy'n dod â phartneriaid sector statudol a thrydydd sector ynghyd i ffurfio 'Cell Digartrefedd'. Mae'n cynnig dull ble mae asiantaethau gwahanol yn ceisio dod o hyd i bobl a all fod yn cysgu allan, a chynnig cymorth a chefnogaeth o fath penodol iddynt. Wrth wraidd y dull hwn mae'r Tîm Ymyriadau i Bobl sy'n Cysgu Allan, sy'n cael ei drefnu gan yr elusen i'r digartref, The Wallich.

Cynhelir gwasanaeth brecwast 365 diwrnod y flwyddyn, ac mae staff yn ceisio dod o hyd i bobl sy'n cysgu allan, neu ymateb i hysbysiadau Street Link am bobl sydd angen cymorth, a sicrhau bod ganddynt fwyd, diod poeth, dillad cynnes, nwyddau ymolchi a mwy. Mae'r tîm hefyd yn eu helpu nhw i fanteisio ar wasanaethau cymorth pellach, gan gynnwys canolfan galw heibio sy'n cael ei rhedeg gan y Wallich ar Stryd y Parc.Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig man diogel i'r bobl hyn rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ac yno gellir gwneud gwaith cymorth tymor hir yn ogystal â manteisio ar gyfleusterau ymolchi a golchi dillad, ffonau, cyfrifiaduron a mwy."

Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Yn ogystal â darpariaeth statudol y cyngor ei hun ar gyfer pobl ddigartref, mae amrywiaeth eang o wasanaethau eraill hefyd yn cael eu comisiynu gan ddefnyddio cyllid Grant Cymorth Tai gan Lywodraeth Cymru.

Bwriad y cynllun ymyrraeth gynnar hwn yw atal pobl rhag dod yn ddigartref, rhoi trefn ar eu sefyllfa byw, a helpu'r rheiny sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref i ddod o hyd i lety, a'i gadw. Yn ystod 2022-23 buddsoddodd y cyngor £7.8m o arian grant cymorth tai i'r ymdrechion hyn, er mwyn atal a lleihau digartrefedd. Yr wythnos hon, cytunodd y Cabinet i gynnig £91,760 y flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf i'r gwasanaeth ar gyfer pobl sy'n cysgu allan a gynigir gan Wallich, a bydd prosiect cyfryngu i deuluoedd gan Llamu, sy'n cadw teuluoedd gyda'i gilydd, yn derbyn mwy na £29,500 y flwyddyn hyd at 2024.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae prosiect Llamu wedi cefnogi 72 o aelwydydd lleol, ac mae gwasanaeth canolfan ddatrysiadau Wallich wedi helpu 194 o aelwydydd unigol a oedd dan fygythiad digartrefedd yn ystod y 24 mis diwethaf. Ond, mae eu cymorth yn mynd y tu hwnt i'r alwad ffôn - yn ystod y tywydd poeth diweddar, pan aeth y tymheredd y tu hwnt i bob record, roedd y tîm allan yn gwneud yn siŵr fod gan bobl sy'n cysgu allan ddŵr, cysgod, eli haul a mwy.

Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Fodd bynnag, nid yw pawb yn derbyn y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt, oherwydd amgylchiadau personol cymhleth. Mewn rhai achosion, mae pobl yn cysgu allan o ddewis, neu am eu bod nhw wedi cael rhybudd i adael llety am eu bod yn peri risg annerbyniol i staff a phreswylwyr.

Gwneir pob ymdrech i atal unrhyw un rhag dod yn ddigartref eto.

Mae Heddlu De Cymru a'r gwasanaeth Prawf yn aelodau allweddol o'r Gell Digartrefedd aml-asiantaethol, ac yn cyfrannu at agenda ehangach diogelwch y gymuned. Felly, pan fydd angen gymryd camau gorfodi - er enghraifft, dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona - gwneir hynny gyda dealltwriaeth fanwl o'r sefyllfa, heb y bwriad wneud i bobl sy'n cysgu allan edrych fel troseddwyr.

Mae cymorth hefyd ar gael gan dîm allgymorth iechyd a gomisiynwyd yn rhanbarthol, sy'n cynnig cymorth arbenigol i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau

Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Yn olaf, ac yn ogystal â llety dros dro traddodiadol, pan mae pob opsiwn arall wedi cael ei ystyried, mae'r cyngor wedi bod yn cynnig podiau brys i bobl sy'n cysgu allan, fel math o lety sylfaenol.

Gan amlaf, mae nifer y bobl sy'n cysgu allan ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eithaf isel. Golyga hyn, felly, fod gwasanaethau cymorth yn adnabod yr unigolion maen nhw'n ceisio eu helpu, a chydbwyso eu hanghenion cymhleth gydag anghenion y gymuned ehangach.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio'n agos gyda nifer o bartneriaid i sicrhau y gall unrhyw un sy'n ddigartref, neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, dderbyn cymorth helaeth, llawn.

Dylai unrhyw un sy'n meddwl eu bod nhw'n wynebu dod yn ddigartref gysylltu â'r cyngor cyn gynted â phosibl, oherwydd mae'n ei gwneud hi'n fwy posibl i ni eich helpu, ac yn atal y broblem rhag gwaethygu. Fe geisiwn wneud popeth o fewn ein gallu bob amser i gefnogi pobl sy'n ddigartref, a'u hatal nhw rhag gorfod cysgu allan

Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

I gael rhagor o wybodaeth am ddigartrefedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i dudalennau cefnogi ac atal y cyngor, yma www.bridgend.gov.uk neu defnyddiwch un o'r gwasanaethau isod:

Gall unrhyw un sy'n pryderu am rywun sy'n cysgu allan roi gwybod am hynny drwy wasanaeth www.streetlink.org.uk.

Chwilio A i Y