Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gweithwyr y Cyngor yn paratoi ar gyfer Storm Agnes

Mae trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i gymryd gofal ac i gynllunio ymlaen llaw wrth i'r DU ddisgwyl i Storm Agnes gyrraedd.

Mae rhybuddion tywydd melyn wedi'u rhoi ar waith ledled Cymru gyfan ar gyfer dydd Mercher 27 a dydd Iau 28 Medi wrth i ni ddisgwyl glaw trwm a chyflymder gwynt a allai gyrraedd 80mya mewn mannau.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cynghori pobl ledled y DU i ddisgwyl trafferthion gan gynnwys difrod i adeiladau a thoeau, colli pŵer, oedi ar drafnidiaeth, cau ffyrdd a phontydd a rhywfaint o fân lifogydd.

Mae gweithwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisoes yn brysur yn paratoi ar gyfer y storm, sef y gyntaf o'r tymor.

Mae criwiau'n gwirio gylïau, ceuffosydd a draeniau i sicrhau eu bod nhw’n glir cyn i'r storm gyrraedd, a byddant hefyd yn paratoi stociau o fagiau tywod y gellir eu dosbarthu i berchnogion tai os bydd angen.

Bydd gweithwyr ar ddyletswydd drwy gydol y storm ynghyd ag offer yn amrywio o JCBs a llifiau cadwyn i jetiau gylïau arbenigol i helpu i gadw ffyrdd ar agor a chartrefi, pobl ac eiddo'n ddiogel.

Disgwylir mai ardaloedd arfordirol fydd yn profi’r gwaethaf o'r gwyntoedd cryfion a ddaw o bosib yn sgil Storm Agnes, felly cymerwch ofal os byddwch chi'n mentro allan.

Fel arfer, bydd ein gweithwyr o’r cyngor allan yn ystod y cyfnodau gwaethaf o'r storm yn sicrhau bod pobl yn ddiogel, ffyrdd yn parhau i fod yn glir a chyfyngu ar faint o ddifrod a achosir.

Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Am ragor o wybodaeth am sut mae'r cyngor yn delio â thywydd eithafol, ewch i dudalennau tywydd y gaeaf.

Bagiau tywod

Mae bagiau tywod gennym a byddwn yn ceisio eu darparu lle gallant gyfyngu ar effaith llifogydd. Os bydd argyfwng mawr, efallai na fydd modd bodloni pob cais ac felly ni allwn warantu y gellir rhoi bagiau tywod i bob eiddo. I wneud cais am fagiau tywod, cysylltwch â ni.

Chwilio A i Y