Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gweithwyr Halo Pen-y-bont ar Ogwr yn ennill pum troffi yn y gwobrau staff blynyddol!

Bu’n noson anhygoel i weithwyr Halo ar hyd a lled y fwrdeistref sirol a llwyddasant i ennill pump o wobrau yn y seremoni gwobrwyo staff a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Eleni, cynhaliwyd y seremoni yn Swydd Henffordd ar 19 Tachwedd. Mae’n dathlu llwyddiannau staff sy’n gweithio’n ddiflino i gynorthwyo eu cymuned leol, gan annog pobl i fyw bywydau iachach a mwy egnïol.

Mae staff cyfleusterau Halo Leisure yn Swydd Gaerloyw, Swydd Henffordd, Wiltshire a Swydd Amwythig, yn ogystal â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cymryd rhan yn yr achlysur blynyddol mawreddog hwn.

Eleni, bu noson y seremoni’n arbennig o lwyddiannus i Ganolfan Bywyd Cwm Ogwr. Cafodd y ganolfan ei chydnabod am ei rhaglen gyffrous o weithgareddau a’r croeso cynnes, personol a estynnir i’r gymuned leol, ac yn sgil hyn enillodd wobr Canolfan Halo y Flwyddyn 2022.

Mae’r ganolfan yn rhagori ar sicrhau bod ymarfer corff yn hygyrch i’r bobl hynny a allai gael anhawster i gymryd rhan – mae’r sesiynau sy’n ystyriol o ddementia ac awtistiaeth yn un enghraifft o hyn.

Mae’r ganolfan wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl gyda’u hiechyd corfforol yn ogystal â’u llesiant meddwl, ac mae hi wedi bod yn hollbwysig o ran lansio Grŵp Ymwybyddiaeth Hunanladdiad Cwm Ogwr.

Tynnwyd sylw at sawl enghraifft o arfer da yn Halo, yn cynnwys gweithgareddau i blant yn ystod gwyliau’r ysgol, sesiynau sboncio a chwarae, a’r rhaglen gymnasteg.

A pharhau wnaeth y dathlu pan enillodd Betty Kerry wobr Gwirfoddolwr Halo y Flwyddyn 2022 a phan enillodd Scott Hancock Wobr Cyflawniad Eithriadol 2022.

Mae Betty yn enwog am ei hagwedd gadarnhaol heintus ac mae ganddi berthynas wych â’r cwsmeriaid a’r staff fel ei gilydd – mae hi hyd yn oed yn trefnu Clwb Ffilmiau rheolaidd lle gall pobl hŷn ddod at ei gilydd gyda chacen a dysglaid o de i gael sgwrs!

Gan mai 80 oed yn unig yw Betty, mae hi o’r farn ei bod yn rhy ifanc i arafu! Ysbrydoliaeth i bawb, yn wir! Yng ngeiriau staff y ganolfan, ‘Dylai’r byd gynnwys llawer mwy o bobl fel Betty’.

Enillodd Scott Hancock y wobr Cyflawniad Eithriadol gan ei fod mor angerddol ynglŷn ag annog plant i fod yn gorfforol egnïol o oedran cynnar. Gan ddefnyddio adnoddau cyfyngedig, llwyddodd Scott i recriwtio criw o wirfoddolwyr i ddatblygu rhaglen gymnasteg newydd sydd wedi bod o fudd i blant o bob cwr o’r cymoedd – gan gynorthwyo cwmni Halo yn fawr gyda’i ymrwymiad i ‘Greu Cymunedau Iachach’.

Yn y gorffennol mae Mike Thomas, rheolwr Pwll Nofio Pencoed, wedi cael ei ganmol am roi sylw i fanylion, am gefnogi ac annog ei dîm, am reoli prosiectau a hefyd am ei sgiliau arwain ymarferol – priodweddau a barodd iddo ennill gwobr Rheolwr y Flwyddyn Halo Leisure 2022.

Yn olaf, cafodd Gwobr Tîm y Flwyddyn 2022 ei chyflwyno i Dîm NERS (Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff) Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gan weithredu ar draws canolfannau Halo yn y fwrdeistref sirol, mae aelodau’r tîm yn gweithio gyda phobl dros 16 oed a fyddai’n elwa ar fod yn fwy egnïol neu sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd cronig. Maent yn cynorthwyo pobl y mae eu meddygon teulu wedi’u hatgyfeirio at Halo i wneud rhywfaint o ymarfer corff.

Mae aelodau’r tîm yn hollbwysig o ran gwella iechyd meddyliol a chorfforol yr unigolion a gaiff eu hatgyfeirio, trwy gyfrwng y rhaglen weithgareddau deilwredig a gynigir dan eu goruchwyliaeth.

Ers 2012, mae ein partneriaeth gyda Halo wedi anelu at wella llesiant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r gwobrau hyn yn arwydd o’r gwasanaeth rhagorol a gynigir gan y bartneriaeth hon.

Hefyd, nid yn unig y mae’r cyflawniadau hyn yn cydnabod gwaith caled staff Halo trwy’r fwrdeistref sirol, ond maen nhw hefyd yn arwydd o natur ofalgar gweithwyr Halo, sy’n gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl yn eu cymuned.

I mi, a minnau’n byw yng Nghwm Ogwr, profiad teimladwy yw gweld y ganolfan bywyd yn cael ei chydnabod yn y fath fodd.

Rydw i’n gyfarwydd â natur radlon y gymuned, a gwych yw gweld y ganolfan yn cael ei chydnabod am hyn, a hefyd am y rhinweddau lu eraill sy’n perthyn iddi.

Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn yr hyn a gyflawnwyd yng Ngwobrau Halo 2022. Braint ac anrhydedd yw cael unigolion allweddol o’r fath yn gweithio yn ein bwrdeistref sirol, a hwythau’n cael effaith mor gadarnhaol ar iechyd y bobl sy’n byw yma. Hoffwn wneud yn fawr o’r cyfle hwn i ddiolch i bob un o’r enillwyr.

Medd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Chwilio A i Y