Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwasanaethau brys yn derbyn diolch am eu ‘hymateb cyflym’ yn dilyn damwain awyren Porthcawl

Mae’r Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi canmol gwasanaethau brys y rheng flaen am ymateb mor gyflym i ddigwyddiad yn gynharach heddiw pan gafodd awyren ysgafn ddamwain a chwympo i ddyfroedd bas ger Traeth y Dref ym Mhorthcawl.

Disgrifiodd tystion eu bod wedi gweld yr awyren yn ‘plymio i mewn i’r dŵr’ a throi wyneb i waered wrth i’r llanw barhau i ddod i mewn tua 9.20am.

Cafodd y peilot, a oedd yn teithio ar ei ben ei hun, ei gefnogi gan griwiau o fadau achub RNLI a lansiodd o Borthcawl a Phort Talbot wrth i Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyrraedd lleoliad y digwyddiad.

Hoffwn gydnabod ein gwasanaethau brys ar y rheng flaen a diolch iddynt am eu hymateb cyflym i’r digwyddiad fore heddiw pan blymiodd awyren ysgafn i ddyfroedd bas ger arfordir Porthcawl.

Yn ffodus iawn, cafodd y peilot ei achub o’r chwalfa ac mae bellach yn derbyn gofal a chymorth.

Mae lleoliad y ddamwain wedi’i ddiogelu er mwyn ei atal rhag peri perygl i forwriaeth, ac mae Cangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr yn ymchwilio i achos y ddamwain. Er bod damweiniau fel hyn yn brin, diolch byth, gallwn wastad ddibynnu ar ein gwasanaethau brys ar y rheng flaen i ymateb yn gyflym, a chynnig cymorth a chefnogaeth effeithiol.

Dywedodd y Cynghorydd David:

Chwilio A i Y