Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith wedi’i gwblhau ar gwrt blodau o’r radd flaenaf yn Amlosgfa Llangrallo

 

Mae’r gwaith wedi’i gwblhau bellach ar gwrt blodau o’r radd flaenaf yn Amlosgfa Llangrallo, ac mae angladdau’n cael eu cynnal unwaith eto ym mhrif leoliad Capel Crallo yn dilyn cwblhau’r gwaith.                        

Bydd y prosiect hwn, sy’n werth £1.2 miliwn, a gymeradwywyd gan Gyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo, yn helpu cynulleidfaoedd i adael y capel yn rhwyddach a bydd yn atal oediadau yn dilyn gwasanaethau. Cynhaliwyd y gwaith gan y cwmni lleol South Wales Contractors Ltd, sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r cwrt blodau bellach yn cynnwys to llawn ac mae’r mynediad i gyfleusterau toiled wedi’i wella.

Yr estyniad hwn yw’r ychwanegiad adeileddol cyntaf i fannau cyhoeddus y prif adeilad ers iddo agor ym 1970, ac mae’r dyluniad wedi’i addasu ar gyfer cymeriad unigryw, hanes a statws adeilad rhestredig yr Amlosgfa.

Maxwell Fry, sef pensaer Prydeinig ag iddo enw da ar hyd a lled y byd, oedd dylunydd gwreiddiol yr Amlosgfa, sydd wedi’i Rhestru’n Radd II*, a goruchwyliwyd y gwaith diweddaraf gan y pensaer o Gymru, Jonathan Adams (Penseiri Percy Thomas, Capita Real Estate and Infrastructure). Ymhlith ei brosiectau nodedig blaenorol y mae datblygiad urddasol Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, ynghyd â gwaith adnewyddu yn Theatr y Sherman, Caerdydd.

Bu’r amlosgfa ar agor trwy gydol y gwaith, gydag angladdau’n cael eu cynnal yn lleoliad llai Capel Coety.                            

Dywedodd y Cyng. Barry Stephens YH, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo: “Mae’r cwrt blodau newydd yn darparu modd addas iawn i nodweddu achlysur dathlu 50 mlynedd ers agor yr amlosgfa, a oedd yn cyd-fynd â brig y pandemig yn 2020. 

“Bydd y gwaith hefyd yn gwella ac yn gwarchod yr amlosgfa ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol, wrth wella mynediad i unrhyw un sy’n mynychu angladd. Mae mwy o amlosgiadau’n cael eu cynnal bellach o gymharu â hynny ar adeg agor yr adeilad gyntaf, ac mae’n bwysig i ni addasu a newid gyda’r oes.”

Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod ynghlwm â’r prosiect am gyflawni cwrt blodau ffantastig a fydd yn gwella’r profiad i unrhyw un sy’n mynychu angladd.

Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i’r dyluniad ac mae’n addas iawn ar gyfer hanes yr adeilad, ac mae’n wych gweld y cafodd yr estyniad ei adeiladu gan gwmni lleol.

Mae hyn yn newyddion da unwaith eto i’r Amlosgfa, ar ôl iddi dderbyn gwobr Baner Werdd gan Cadwch Gymru’n Daclus yn ddiweddar am y 14eg flwyddyn yn olynol. Mae hyn yn dystiolaeth o waith rhyfeddol yr holl staff sy’n cyflawni ar gyfer bobl leol, flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Dywedodd y Cyng. John Spanswick, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd:

Chwilio A i Y