Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith wedi’i gwblhau ar gae chwaraeon cymunedol newydd Ysgol Brynteg

Mae cae chwaraeon amlddefnydd newydd cwbl fodern wedi cael ei agor yn swyddogol bellach yn Ysgol Brynteg er budd y disgyblion a’r gymuned ehangach.

Mae’r cyfleuster pob tywydd gwerth wedi’i ariannu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chronfa Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys llifoleuadau newydd i wneud y defnydd gorau ohono drwy gydol misoedd y gaeaf yn ogystal â thu allan i oriau ysgol.

Mae’r Gronfa Ysgolion Bro yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru drwy sicrhau bod dysgwyr yn gallu manteisio ar gyfleusterau modern o ansawdd uchel.

Mae'r cyfleuster newydd yn cymryd lle'r arwyneb redgra blaenorol nad oedd modd ei ddefnyddio'n aml mewn tywydd gwlyb oherwydd problemau draenio.

Mae’r cae pob tywydd newydd yn sicr yn ychwanegiad i’w groesawu at ein cyfleusterau ni ac rydw i’n gwybod bod y disgyblion a’r staff mor falch o allu cael mynediad at gyfleuster o’r ansawdd yma. Rydw i’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth gan ein hawdurdod lleol a Llywodraeth Cymru oherwydd heb hyn, ni fyddai’r datblygiad yma wedi bod yn bosibl.

Hyd at eleni, roedd ein disgyblion ni’n chwarae ar arwyneb redgra ac er bod hwn wedi bod o fudd i ni ers blynyddoedd, roedd ei gyflwr wedi dirywio ac nid oedd yn addas ar gyfer chwaraeon. Bydd y cyfleuster newydd cwbl fodern yma nid yn unig o fudd i’n disgyblion a’n staff ni ond hefyd bydd yn ein helpu ni i gynnal ac adeiladu ar ein cysylltiadau cadarn eisoes â’r gymuned leol.

Ni ddylid tanbrisio pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol wrth helpu ein disgyblion ni gyda’u lles corfforol a meddyliol, a bydd y cyfleuster yma yn sicr yn ein helpu ni i ddarparu’r cyfleoedd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion am flynyddoedd lawer.

Ryan Davies, Pennaeth Ysgol Brynteg

Fe hoffwn i ddiolch i’r cyngor a’r holl athrawon am eu hymdrechion i sicrhau’r cae newydd. Fe fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bawb, ac rydw i’n gwybod bod y tîm hoci wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at chwarae arno.

Emma Barton, disgybl ym Mrynteg

Mae hon yn enghraifft wych o sut all ysgolion, y cyngor a Llywodraeth Cymru gydweithio’n effeithiol i ddarparu cyfleusterau cymunedol newydd.

Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i genedlaethau’r dyfodol ac mae’n galonogol iawn y bydd y cae newydd nid yn unig o fudd i ddisgyblion yr ysgol, ond i bobl yn y gymuned hefyd.

Fe ddywedir yn aml y gall cyfleusterau newydd ysgogi disgyblion fwy fyth i wneud y mwyaf o’u dysg, ac rwy’n sicr y bydd yna alw aruthrol ymysg y dosbarthiadau fydd yn dymuno defnyddio’r cyfleuster hwn o’r radd flaenaf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cyng Jon-Paul Blundell

Mae disgwyl i'r cae newydd fod ar gael i grwpiau cymunedol yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn yn dilyn proses sefydlu gychwynnol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn archebu’r cyfleuster, gallwch gysylltu â’r ysgol nawr i sicrhau eich bod yn cael gwybod pryd fydd y cae ar gael.

Chwilio A i Y