Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith dymchwel yr hen orsaf heddlu yn dechrau’n fuan

Bydd gwaith i ddymchwel yr hen orsaf heddlu yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn dechrau’n fuan gyda’r safle wedi’i nodi fel lleoliad posib ar gyfer campws Coleg Penybont newydd.

Bydd y contractwyr, Cardiff Demolition, yn dechrau’r gwaith dymchwel yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 20 Mawrth a disgwylir y bydd y gwaith yn cymryd hyd at 12 wythnos.  Bydd mynediad i Cheapside a busnesau lleol yn cael ei gynnal yn ystod y gwaith dymchwel, er bydd y briffordd yn cael ei chulhau dros dro a bydd mân addasiadau i fannau croesi i gerddwyr. Bydd y contractwr yn cysylltu â busnesau lleol i gynghori ar y rhaglen waith cyn i’r gwaith dymchwel ddechrau.

Mae’r safle, yn Cheapside, yn rhan bwysig o gynlluniau adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer canol y dref.

Wedi i’r adeilad gael ei ddymchwel, bydd y safle, ynghyd â hen safle maes parcio aml-lawr Cheapside, yn cael eu prydlesu i Goleg Penybont, gan alluogi campws Heol y Bont-faen i gael ei adleoli i’r lleoliad newydd yng nghanol y dref.

Mae’r coleg yn bwriadu creu adeilad carbon sero net, gyda chyfleusterau dysgu ac addysgu 21ain ganrif ar gyfer addysg ôl-16 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda buddion cymunedol yn cynnwys theatr 200 sedd, siop goffi a mannau cyfarfod hyblyg.

Mae’n cynrychioli gwerth £50 miliwn o fuddsoddiad i sgiliau a hyfforddiant y bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac aelodau’r gymuned sydd angen cyfleoedd i ail-hyfforddi ac ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr. Ariennir y buddsoddiad hwn yn rhannol gan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

 

Bydd y campws coleg newydd, sy’n addas ar gyfer o leiaf 1,000 o staff a myfyrwyr, yn ysgogi adfywiad ehangach o’r ardal, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a chefnogi busnesau lleol.

Yn y cyfamser bydd ein cynlluniau i ddatblygu gwell trafnidiaeth gyhoeddus yn ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad i'w gyfleusterau.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet y cyngor dros Adfywio

Chwilio A i Y