Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith ar gyfer llwybr teithio llesol Ynysawdre wedi’i gwblhau

Gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau teithio llesol yng Nghymru, yn ddiweddar mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cwblhau llwybr teithio llesol newydd o Ynysawdre i Goleg Cymunedol y Dderwen, ger Pen-y-bont ar Ogwr (mewn coch ar y map). 

Mae’r llwybr 440m o hyd yn rhedeg drwy ardal o dir a arferai fod yn goediog ac wedi tyfu’n wyllt, yn ffinio ag ochr ogleddol Ysgol Gynradd Brynmenyn ac ochr ddwyreiniol Coleg Cymunedol y Dderwen.  Mae’n cysylltu dau bwynt sydd eisoes yn rhan o’r rhwydwaith teithio llesol, yn ogystal â darparu man cychwyn ar gyfer llwybr arfaethedig, a fydd yn parhau tua dwyrain Afon Ogwr Fawr. 

Agorodd y llwybr ddechrau mis Ebrill, gyda DT Contracting yn gweithio dros gyfnod o fisoedd, o fis Hydref 2023 tan fis Mawrth 2024, i gwblhau’r prosiect 500k.

Mae’r llwybr 2.5m o led ar gael i feicwyr a cherddwyr ei fwynhau, gan wneud teithiau llesol yn fwy diogel, yn fwy hygyrch ac yn gynaliadwy ar gyfer preswylwyr ledled y fwrdeistref sirol. Mae’r cynlluniau pellach ar gyfer y llwybr yn cynnwys plannu blodau gwyllt ar bwys y llwybr maes o law.

Bydd llwybrau teithio llesol hygyrch yn ein helpu i gyrraedd ein targed sero net, yn cynnig dull rhatach o deithio i breswylwyr, ac yn darparu ffordd o deithio a fydd yn hybu llesiant meddyliol a chorfforol.

Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Chwilio A i Y