Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith ar groesfannau wedi’i oedi er mwyn osgoi cyfnodau prysur i fasnachwyr ac ymwelwyr

Bu’n rhaid gohirio’r gwaith o osod yr ail o ddwy groesfan i gerddwyr ym Mhorthcawl rhag amharu ar brysurdeb yn ystod y cyfnodau lle croesawir twristiaid yn y gwanwyn a’r haf.

Y bwriad gwreiddiol oedd gosod y ddwy groesfan newydd rhwng mis Ionawr ac Ebrill er mwyn osgoi’r cyfnodau prysuraf i fasnachwyr ac ymwelwyr yn y dref glan môr boblogaidd hon. Fodd bynnag, mae contractwyr sy’n gweithio ar ran Aldi wedi cadarnhau erbyn hyn na fydd yr un o’r ddwy groesfan wedi’u cwblhau cyn gŵyl y banc mis Ebrill, yn groes i’r cynllun gwreiddiol.

Mae’r groesfan gyntaf, sydd yn agos i’r Portway, bron yn barod, ond mae angen gosod unedau golau a phŵer cyn y gellir ei defnyddio. Gan fod Aldi wedi cadarnhau y gellir cwblhau’r gwaith terfynol hwn heb achosi rhagor o amhariad neu anghyfleustra, disgwylir i’r groesfan fod yn barod yn fuan iawn.

Mae gwaith cysylltiedig i ddarparu cyswllt newydd i gerddwyr trwodd i Hillsboro Place hefyd yn cael ei gwblhau, ac mae Aldi wedi cadarnhau y bydd hwn hefyd yn barod i’w ddefnyddio cyn bo hir.

Bydd yr oedi’n amharu ar waith adeiladu’r ail groesfan yn bennaf, sydd wedi’i lleoli ar y Promenâd Dwyreiniol gyferbyn â’r fynedfa i Ffair Traeth Coney. Mae’r gwaith hwn eisoes wedi’i aildrefnu, ac yn digwydd yn yr hydref a’r gaeaf.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae’r ddwy groesfan yn rhan o becyn o welliannau i briffyrdd, mannau cerdded a llwybrau beics a drefnwyd gan y cyngor wrth iddynt drafod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer siop fwyd newydd ger Llyn Halen. Gallwn roi sicrwydd i’r trigolion bod Aldi a’r cyngor yn parhau gyda’u hymrwymiad i gwblhau’r gwaith hwn.”

Chwilio A i Y