Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwahoddiad i fynegi diddordeb mewn dod yn aelod o Fforwm Mynediad Lleol Pen-y-Bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ganol ail-sefydlu'r Fforwm Mynediad Lleol statudol ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr, fel sy'n ofynnol dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Bydd y Fforwm yn cynnwys hyd at 22 aelod.

Swyddogaeth y Fforwm fydd cynghori'r awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, ynghylch ffyrdd o wella mynediad cyhoeddus at dir ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr at ddibenion hamdden awyr agored ac i fwynhau'r ardal leol.

Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal o leiaf ddwywaith y flwyddyn, ond mae'n debygol y byddant yn cael eu cynnal yn fwy rheolaidd na hynny. Mae'n bwysig bod aelodau'n gallu mynychu pob cyfarfod, oherwydd ni chaniateir dirprwyon. Mae'r rhain yn swyddi gwirfoddol, heb dâl, ond bydd aelodau'r fforwm yn gallu hawlio treuliau rhesymol.

Gall unrhyw un sydd eisiau cael eu hystyried ar gyfer aelodaeth gael gafael ar ragor o fanylion neu ffurflen gais drwy gysylltu â:

Mr. Andrew Mason, Ysgrifennydd Fforwm Mynediad Lleol, drwy anfon e-bost at rightsofway@bridgend.gov.uk neu drwy ffonio 01656 642537 / 01656 642553

Dyddiad cau: 17 Chwefror 2023

 

Chwilio A i Y