Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwahodd grwpiau celfyddydau perfformio ‘y tu ôl i’r llenni’ i weld gwaith ailddatblygu adeilad hanesyddol

Gwahoddwyd rhai o grwpiau defnyddwyr rheolaidd Neuadd y Dref Maesteg ar ymweliad ‘y tu ôl i’r llenni’ i weld y cynnydd o ran y gwaith i ailddatblygu’r adeilad hanesyddol.


Mae gwaith ailddatblygu mawr yn cael ei wneud ar yr adeilad fel rhan o’r buddsoddiad mwyaf a welwyd yng nghanol tref Maesteg ers degawdau, gyda’r sylw ar adnewyddu’r adeilad rhestredig Gradd ll i’w gyn- ogoniant a’i gyfoethogi â nodweddion modern fel atriwm gwydr newydd, theatr stiwdio a sinema, caffi a bar mesanîn, canolfan dreftadaeth, llyfrgell, a lifft hygyrch.

Yn ystod yr ymweliad, fe gafodd y grwpiau celf, a diwylliannol, a oedd yn cynnwys Curtain Up, Côr Meibion Bois Goetre-Hen, Cymdeithas Theatr Gerdd Maesteg a grŵp dawnsio Funk Force, sgwrs gyda’r contractwyr, Knox and Wells, a swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ynghylch y gwaith adeiladu diweddaraf.

Mae’r datblygiad wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y misoedd diwethaf, wrth fynd ati i wneud y gwaith a ganlyn:

  • gosod y slabiau carreg pennant yn y man cyhoeddus cynllun agored a fydd yn lleoli llyfrgell, man cyfarfod, man gweithio, ynghyd â gweithgareddau i wahanol grwpiau oedran.
  • gosod lifft yn y cyntedd sydd wedi’i greu o’r newydd, sy’n rhoi mynediad llawn i dair lefel yr adeilad.
  • parhau â’r gwaith trylwyr er mwyn mynd i'r afael â’r problemau o ran pydredd sych mewn rhannau allweddol o’r adeilad.
  • ychwanegu’r gorffeniadau ar gyfer y waliau a’r lloriau ledled yr adeilad.
  • gwaith gorffen yr ystafelloedd gwisgo sydd wedi’u hailwampio, sy’n cynnwys dwy ystafell wisgo ychwanegol.
  • rigin llwyfan ar gyfer offer sain a goleuo, setiau a sgriniau.

Roedd yr ymweliad â ‘thu ôl i’r llenni’ Neuadd y Dref Maesteg yn hynod ddiddorol a llawn gwybodaeth, ac er bod llawer o waith i’w wneud eto ar yr adeilad eiconig hwn, yn ddi-ffael, bydd yn parhau i fod yn 'Drysor Pennaf’, nid yn unig Dyffryn Llynfi, ond Bwrdeistref Sirol gyfan Pen-y-bont ar Ogwr. Fel côr, mae Bois Goetre-Hen yn edrych ymlaen yn eiddgar am achlysur yr agoriad mawr, ac i’r cyhoedd gael y cyfle unwaith eto i brofi a chofleidio’r hyn sydd gan dref fendigedig Maesteg i’w gynnig. Roedd gan yr hen adeilad ‘gynhesrwydd’ a theimlad ‘cartrefol’, roedd yr acwsteg yn wych, prin iawn y byddai angen chwyddo sain y perfformwyr. Ond, yn anffodus, yn y blynyddoedd diwethaf, fel sy’n digwydd i ni gyd, roedd yn mynd yn hen ac yn dangos ei oed, gyda’i addurniadau hen ffasiwn, dŵr yn dod i mewn, system wresogi wael, mynediad annigonol (trwy lifft danfoniadau) ynghyd â diffyg buddsoddiad. Roedd y neuadd wedi mynd â’i phen iddi, roedd rhaid gwneud rhywbeth drastig i achub ei bodolaeth. Heb wneud rhywbeth, yn anffodus, fel sawl adeilad symbolaidd arall ym Maesteg, heb os nac oni bai, byddai wedi cael ei rhoi o’r neilltu a’i gadael i adfeilio.

Roeddwn wedi synnu ac wedi fy syfrdanu gan ehangder y lle sydd wedi’i greu o fewn y rhan o’r adeilad a fu unwaith yn lleoliad y farchnad dan do ffyniannus. Alla’ i ddim ond gobeithio y bydd y lleoliad hwnnw’n orlawn o bobl unwaith eto yn ymweld â’r llyfrgell newydd, ac y bydd sefydliadau’n manteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r nifer o ystafelloedd sydd wedi’u creu o’r newydd o’i amgylch. Daw adeiladau newydd â chyfleusterau newydd, mae’r fynedfa newydd oddi ar Stryd Talbot yn wych, pe bai ond yn darparu cyntedd diogel, cynnes i’r cyhoedd. Cefais brofiad personol o ddioddef ciwio ar yr hen risiau serth a’r palmant yn yr oerni a’r glaw, yn disgwyl i’r drysau agor, a gweld bod ciw arall yn disgwyl i brynu tocynnau raffl yn y fynedfa, neu hufen iâ yn y bwth tocynnau.

Bydd y Stiwdio neu’r ‘Blwch Oren’ fel y’i gelwir ar lafar gwlad, yn ased go iawn i sefydliadau sy’n dymuno perfformio mewn lleoliad mwy clyd, mae’n grêt cael bod yn ‘bysgodyn mawr mewn pwll bach’, does dim byd gwaeth na pherfformio o flaen cynulleidfa denau. Mae mynediad trwy lifft ar gyfer y cyhoedd ac ar gyfer danfon ‘propiau’ i’r llwyfan yn fanteision mawr hefyd, sy’n rhywbeth y bydd y neuadd yn sicr o gael budd ohono. Bydd yr ystafelloedd newid, y cyfleusterau ymolchi, y sain a’r goleuadau sydd newydd gael eu hailwampio yn helpu i hyrwyddo’r lleoliad heb ofni unrhyw wrth-ddweud.

Richard Howells, Ysgrifennydd Côr Meibion Bois Goetre-Hen

Roeddem ni wrth ein boddau’n cael ymweld â Neuadd y Dref Maesteg yn ddiweddar, yng nghwmni cynrychiolwyr o grwpiau defnyddwyr eraill. Rydym wedi hen edrych ymlaen at gael cerdded i fyny grisiau Neuadd y Dref unwaith eto, ac roeddem ni’n awyddus i weld y gwaith sydd wedi’i wneud yno. O’r llyfrgell newydd yn hen leoliad y farchnad, i fyny at y neuadd ei hun, roedd yn amlwg fod y gwaith ailddatblygu’n mynd yn ei flaen yn wirioneddol dda. Fel cwmni theatrig, roedd gennym ddiddordeb arbennig mewn gweld y llwyfan a chefn y llwyfan. Mae’r ystafelloedd gwisgo wedi cael eu trawsnewid ac yn addas i’r diben o’r diwedd. Mae’r stiwdio newydd yn cysylltu’n hwylus â chefn y llwyfan, sy’n rhoi mwy o le i ni fynd ati’n ddiogel i oruchwylio’r niferoedd mawr o blant sy’n cymryd rhan yn ein cynyrchiadau. Roeddem ni’n llawn edmygedd o’r lifft newydd a fydd yn codi’n syth i fyny i’r llwyfan, ac wedi mwynhau cael mynd yno dros ein hunain i weld y gweddill o’r gwaith adnewyddu yr oedd angen mawr amdano.

Rydym mor ffodus bod Neuadd y Dref Maesteg yn dal i fodoli yng nghanol ein tref, ac yn cael ei thrawsnewid yn raddol er mwynhad cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n mynd i fod yn achlysur emosiynol iawn i’r holl grwpiau ym Maesteg a fu’n arfer defnyddio’r adeilad bendigedig hwn pan fydd yn agor ei ddrysau unwaith eto.

Mae Curtain Up yn gynnwrf i gyd wrth feddwl am gael dechrau ymarfer a pherfformio yn Neuadd y Dref yn y dyfodol agos. Ar ôl methu dathlu 20 mlynedd ers ein sefydlu, rydym yn gobeithio cael dychwelyd i’r adeilad i ddathlu 25 mlynedd yn 2025, ac yn croesi ein bysedd!

Ruth o Grŵp Theatr Ieuenctid Curtain Up

Roeddwn i wrth fy modd cael gweld y cynnydd a wnaed ers fy ymweliad diwethaf ychydig cyn y Nadolig. Mae’r datblygiad yn wirioneddol dod yn ei flaen yn dda. Mae’n gyffrous gallu gweld y tu mewn i’r adeilad yn cael ei drawsnewid o fod yn argraff arlunydd ar bapur i fod yn realiti ar ffurf lleoliad celfyddydol a diwylliannol rhyfeddol.

Mae hwn yn fuddsoddiad aruthrol yng nghalon y gymuned, a fydd yn sicrhau bod profiadau celfyddydol a diwylliannol o safon uchel ar gael i bawb yn Nyffryn Llynfi a’r cyffiniau, ar stepen eu drws.

Unwaith y bydd wedi ailagor bydd yr adeilad yn ganolbwynt hyd yn oed mwy arwyddocaol ar gyfer y dref, a fydd yn manteisio ar yr economïau dydd a nos, yn denu ymwelwyr o bob oed a diddordeb, ac yn creu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad gan fusnesau o’r sector preifat.

y Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet Tai, Cynllunio ac Adfywio, a fynychodd yr ymweliad diweddar

Grwpiau defnyddwyr rheolaidd Neuadd y Dref Maesteg oedd enaid y lleoliad cymunedol hwn, fel y byddan nhw am byth. Mae’r corau lleol, y cymdeithasau drama a’r ysgolion dawns yn cyfrannu cymaint at fywyd a threftadaeth ddiwylliannol Dyffryn Llynfi, roedd yn fraint cael cynnig cipolwg iddyn nhw ar y gwaith ailddatblygu. Allwn ni ddim disgwyl i gael eu croesawu nhw’n ôl i’r llwyfan cyn bo hir.

Ychwanegodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen

Caiff y prosiect ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Treftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru, gan gynnwys CADW, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cyngor Tref Maesteg, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Davies, ac Ymddiriedolaeth y Pererin.

Chwilio A i Y