Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gosod goleuadau traffig newydd ar ffordd brysur

Cynghorir gyrwyr i ddisgwyl tarfu dros dro fis nesaf pan fydd gwaith yn dechrau ar newid hen set o oleuadau traffig mewn dau leoliad prysur ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r goleuadau traffig, sydd wedi bod ar waith ers dros 25 mlynedd, wedi’u lleoli mewn dau safle gwahanol ar hyd yr A473 ym Mhen-y-bont ar Ogwr - y prif fynediad at ystâd Broadlands, a’r gyffordd ar waelod Stryd y Parc.

Gan mai’r A473 yw un o ffyrdd prysuraf y fwrdeistref sirol, mae’n hanfodol ymgymryd â’r gwaith er mwyn sicrhau bod traffig yn parhau i symud yn effeithlon ac er mwyn diogelu gyrwyr a cherddwyr yn y dyfodol.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal mewn dau gam ar wahân - 23 Mai i 23 Mehefin yng nghyffordd Broadlands, a 27 Mehefin i 5 Awst ar waelod Stryd y Parc – a bydd signalau dros dro ar waith tra bod y goleuadau newydd yn cael eu gosod.

Hoffwn ddiolch i’r trigolion lleol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y gwaith hanfodol hwn, er mwyn cynnal diogelwch ar y ffordd a sicrhau bod traffig yn parhau i symud yn effeithiol.

Yn anffodus, nid oes modd cynnal gwaith o’r fath mewn lleoliadau mor brysur heb achosi ychydig o darfu nad oes modd ei osgoi, ac rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw am yr anghyfleustra dros dro a allai godi.

Er nad oes amser delfrydol i ymgymryd â phrosiect o’r fath, byddwn yn gwneud pob ymdrech i leihau’r anghyfleustra gymaint â phosibl.

Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

Chwilio A i Y