Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Glanhau cymunedol ar y safle tipio anghyfreithlon yn y Pîl

Yr wythnos ddiwethaf, Lôn Ffald yn y Pîl oedd canolbwynt glanhau cymunedol mewn ymgais i glirio gwastraff sydd wedi ei adael yn yr ardal, gan greu ardal brafiach i drigolion.

Fel priffordd heb ei mabwysiadu, nid oedd modd i dîm Strydoedd Glanach y cyngor gael gwared ar y sbwriel anghyfreithlon oedd wedi ei adael ar Lôn Ffald.  Fodd bynnag, yn dilyn cyfres o gwynion ynghylch y lôn, ymunodd swyddogion addysg a gorfodi o’r tîm, â’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, i ystyried dull aml-asiantaeth i fynd i'r afael â'r broblem.

O ganlyniad, daeth Cadwch Gymru'n Daclus, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Asda, y Cyngor Cymunedol, ynghyd â'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a thimau Strydoedd Glanach at ei gilydd i fynd i'r afael â'r gwastraff a adawyd ar y lôn.  Gyda sgip wedi ei rhoi am bris gostyngol gan Cox’s Skip and Waste Management, cafodd yr ardal ei chlirio mewn llai na bore. 

Roedd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David, a'r Is Arweinydd, Jane Gebbie, ynghyd â'r Cynghorwyr Rhys Watkins a Jason Parry o Gyngor Cymuned y Pîl i gyd yn bresennol. 

Dywedodd y Cynghorydd Watkins, Cadeirydd Cyngor Cymunedol y Pîl: "Mae hon wedi bod yn fenter wych, yn darparu cyfle da i gydweithio gyda sectorau amrywiol o'r gymuned i frwydro yn erbyn tipio anghyfreithlon a gwella ein hardal leol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Parry, sydd hefyd yn ddyn tân yng Ngorsaf Dân ac Achub Mynydd Cynffig yn y Pîl: "Roedd y tîm diffodd tân yn awyddus i gael rôl weithredol yn clirio Lôn Ffald, yn enwedig i atal digwyddiadau pellach yn ymwneud â thân a chreu amgylchedd gwell.  Roedd y dull aml-asiantaeth yn hynod lwyddiannus - mae'r gwasanaeth tân yn edrych ymlaen at brosiectau cymunedol pellach."

Dywedodd Brian Jones, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn edrych ar ôl ein hamgylchedd, felly roedd yn wych gweld y gymuned yn dod ynghyd i glirio Lôn Ffald.  Rwy'n gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli trigolion ledled y fwrdeistref sirol i gymryd rhan yn cadw eu hardal yn lân - o un ai i glirio'r strydoedd, y parc lleol, hoff draeth, neu ardal o harddwch, mae pob darn o sbwriel sy'n cael ie godi o'r amgylchedd o bwys.

I atal rhagor o dipio anghyfreithlon a sicrhau bod yr ardal yn aros yn glir, mae'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi gosod camera symudol dros dro i gadw golwg ar y lôn.  Mae'r camera'n un o nifer o gamerâu symudol sydd wedi eu gosod ledled y fwrdeistref sirol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r fenter hon yn enghraifft arbennig o'r hyn y gellir ei gyflawni wrth gydweithio. Mae tipio anghyfreithlon yn achosi cymaint o felltith ar ein tirwedd ac mae angen i bawb gymryd cyfrifoldeb am fynd i'r afael â'r broblem.

Roedd yn braf gweld agwedd gymunedol tuag at glirio Lôn Ffald, gan alluogi pob un ohonom i sylweddoli y gallwn wneud gwahaniaeth. Roeddwn yn hynod o ddiolchgar i ddau o feibion yr ymladdwyr tân, Zander a Xavier, am wirfoddoli i glirio'r ardal ar ddiwrnod cyntaf eu gwyliau Pasg, esiamplau gwych o bobl ifanc!

Nod y camera dros dro yw atal pobl rhag gadael gwastraff ar y lôn, yn ogystal â gwella'r teimlad o ddiogelwch yn ardal Lôn Ffald. Rydym yn gobeithio y bydd clirio'r ardal yn creu synnwyr o falchder a pherchnogaeth ymysg trigolion lleol, gan annog pobl i barhau i edrych ar ôl eu cymunedau lleol.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David

Chwilio A i Y