Gemau OlympAge yn dychwelyd yn dilyn y pandemig
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 04 Hydref 2022
Dychwelodd y 'Gemau OlympAge' yn ddiweddar, gyda thimau o bobl hŷn yn cymryd rhan yn y digwyddiad llesiant a gynhaliwyd yng Nghanolfan Fywyd Halo Pen-y-bont ar Ogwr.
Dychwelodd y digwyddiad, a drefnwyd gan Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl absenoldeb o dair blynedd i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ar ddydd Sadwrn 1 Hydref.
Cymerodd cyfranogwyr o grwpiau cymunedol lleol a sesiynau gweithgaredd ar draws y fwrdeistref sirol ran yn y digwyddiad gan gystadlu yn y gweithgareddau chwaraeon amrywiol oedd yn cynnwys pêl fasged, bowlio a chwrlo oes newydd, taro'r targed, bownsio pêl a'r râs gyfnewid mewn cadair i gloi.
Roedd myfyrwyr Blwyddyn 10 o Ysgol Gyfun Mryntirion a Brynteg wrth law i hyfforddi a rhoi cymorth i wyth o dimau oedd yn cystadlu, a enwyd a rôl gwledydd o amgylch y byd. Roedd partneriaid yn cynnwys Awen, Halo Leisure, Bing, Bavo a Super Agers yn cynorthwyo i sicrhau bod y gemau'n mynd rhagddynt yn ddidrafferth a chyfranogwyr yn cael amser wrth eu bodd.
Mae'r 'Gemau OlympAge' a'r rhaglenni Super Agers yn rhan o ganolbwyntio'r cyngor ar ddatblygu mentrau llesiant sy'n cydnabod manteision iechyd a llesiant o annog pobl hŷn i symud yn amlach, wrth greu amgylchedd cefnogol ac ymgysylltiol y gall pob oed elwa ohono.
Roedd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie a'r Dirprwy Faer, y Cynghorydd William Kendall ymysg y rhai a fynychodd y digwyddiad
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie a agorodd y digwyddiad:
"Heddiw rydym yn dathlu'r Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn arfaethedig, ond rydym ar genhadaeth i wneud pob diwrnod yn fwy ystyrlon a phriodol i oedolion hŷn ar draws y fwrdeistref sirol.
"Bydd nifer o'r timau sydd yma heddiw wedi ymgysylltu â'n rhaglen super-agers yn ogystal â rhaglenni a mentrau cymunedol eraill, ac rydym mor falch o allu dechrau rhywbeth ac adeiladu ar y sylfaen gref honno.
"Mae ein gwaith gyda SHOUT, ein fforwm pobl hŷn wedi parhau'n arbennig mewn perthynas â gweithgareddau cymunedol, ac rydym yn gweld cyfleoedd go iawn i bobl ŷn ymgysylltu a chael mwy o lais a dewis yn yr hyn sy'n digwydd yn eu cymunedau lleol.
"Trwy wneud mwy o bethau fel hyn gallwn osgoi problemau megis unigrwydd a bod yn ynysig, lleihau'r risg o ddisgyn, cynorthwyo i adeiladu rhwydwaith o gefnogaeth rhwng pobl mewn cymunedau ac yn fwy na dim, cynnal lefelau da o lesiant i bawb.
"Rydym yn lansio ein hymrwymiad hefyd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, i ddod yn 'Gymuned Oed Cyfeillgar' Sefydliad Iechyd y Byd a maes o law, dod yn rhan o rwydwaith byd-eang.
"Ein nod sylfaenol yw creu cymunedau cynhwysol ac integredig , ac rwy'n falch o weld cymysgedd o genedlaethau yn cynnwys pobl ifanc o ysgolion uwchradd Brynteg a Bryntirion yn cefnogi'r digwyddiad arbennig hwn."
Dywedodd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd William Kendall a gyflwynodd y tlysau buddugol i dimau 'Tonga' a 'Sri Lanka':
"Mae ein timau heddiw yn enghreifftiau gwych o'r rhai sydd wedi cysylltu ac a fydd yn cymryd rhan mewn digwyddiad cystadleuol ond llawn hwyl fore heddiw."
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen 'OlympAge', cysylltwch â'r adran Atal a Llesiant drwy ffonio 01656 815215, neu anfonwch neges e-bost at: jane.thomas@bridgend.gov.uk